Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Cynhelir Sioe Awyr Cymru y penwythnos hwn, a dyma ddigwyddiad na ddylech ei golli os ydych yn aros yn Abertawe!
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim a gynhelir ar 2 a 3 Gorffennaf, a bydd yn sioe i’w chofio ar ôl seibiant o ddwy flynedd. Bydd yn cynnwys arddangosiadau ar y ddaear, awyrennau ar y ddaear, arddangosiadau a sioe wefreiddiol yn yr awyr .
Lawrlwythwch ap swyddogol Sioe Awyr Cymru ac i ganfod yr hyn i’w ddisgwyl, ewch draw i dudalennau gwe Sioe Awyr Cymru.
Bydd y safle ar agor rhwng 10am a 6.30pm ar y ddau ddiwrnod fel y gallwch fwynhau penwythnos llawn acrobateg awyr anhygoel a gweithgareddau llawn hwyl ar y ddaear, megis cerddoriaeth, arddangosiadau, reidiau a llawer mwy!
Bydd llawer o ffyrdd ar gau er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn hwylus ac yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mwynhewch a chofiwch ein tagio yn eich lluniau os byddwch yn tynnu rhai! @myuniswansea
Student Communications Coordinator Mawrth Mehefin 28th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Amrywiol
Dyma adeg y flwyddyn pan fydd y Swyddfa Dderbyn yn prosesu canlyniadau arholiadau holl ymgeiswyr Prifysgol Abertawe ac yn derbyn miloedd o alwadau ffôn hefyd gan ymgeiswyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Clirio.
Eleni, rydym ni’n chwilio am help gan fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol sydd â diddordeb mewn staffio’r Llinell Gymorth.
Student Partnership and Engagement Manager
Posted In: Negeseuon, [:en]Offers[:cy]Cyfleoedd[:]
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd – 14 Gorffennaf 6-7.30pm
Cewch gyfle i gwrdd â’r tîm TAR, ein myfyrwyr a’r ysgolion sy’n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2022! (more…)
Student Communications Officer Llun Mehefin 27th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi cyrraedd cytundeb i osod rhagor o oleuadau ar hyd y llwybr sy’n arwain o brif gatiau’r parc.
Daw hyn ar ôl i fyfyrwyr fynegi pryderon am ddiogelwch a’r gallu i weld yr hyn sydd o’u cwmpas wrth gerdded drwy’r parc.
Mae Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol wedi cytuno i ariannu’r broses o osod y goleuadau newydd. Fel rhan o’r gwaith, mae arolwg ecolegol wedi cael ei gynnal ac mae’r prosiect wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau a dylid ei gwblhau yn ystod yr haf.
Student Partnership and Engagement Manager
Dylech gyflwyno cais os ydych…
Mae Cynrychiolwyr Ysgol hefyd yn cael bwrsariaeth gwerth £300 ar ddiwedd y flwyddyn academaidd os byddant yn cwblhau Gwobr Efydd HEAR.
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn a chyflwynwch gais nawr!
Student Communications Coordinator
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University