Nod animeiddiad newydd gan Brifysgol Abertawe yw annog myfyrwyr newydd i’r Brifysgol sicrhau eu bod wedi’u brechu yn erbyn llid yr ymennydd a chynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau’r haint.
Mae’r ffilm wedi’i seilio ar ymchwil gan Angharad Shambler o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd fel rhan o draethawd hir ei MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd, yn ceisio pennu faint o fyfyrwyr gafodd y brechlyn MenACWY a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o lid yr ymennydd.
Daeth y brechlyn MenACWY newydd yn lle’r brechlyn atgyfnerthol MenC yn 2015, y cafodd y rhan fwyaf o bobl yn eu plentyndod. Yn wahanol i’r brechlyn blaenorol, mae MenACWY yn atal clefyd meningococaidd grŵp W, a all fod yn angheuol ac a geir yn gyffredin ymhlith myfyrwyr.
Ar ôl arolygu 400 o fyfyrwyr 18-25 oed, datgelodd ymchwil Angharad bod 60.8% o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael y brechlyn MenACWY, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 29.4%.
Nod animeiddiad newydd gan Brifysgol Abertawe yw annog myfyrwyr newydd i’r Brifysgol sicrhau eu bod wedi’u brechu yn erbyn llid yr ymennydd cyn dechrau yn y Brifysgol yn hwyrach y mis hwn, a chynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau’r haint.
Mae’r ffilm wedi’i seilio ar ymchwil gan Angharad Shambler o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd fel rhan o draethawd hir ei MSc mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd, yn ceisio pennu faint o fyfyrwyr gafodd y brechlyn MenACWY a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o lid yr ymennydd.
Daeth y brechlyn MenACWY newydd yn lle’r brechlyn atgyfnerthol MenC yn 2015, y cafodd y rhan fwyaf o bobl yn eu plentyndod. Yn wahanol i’r brechlyn blaenorol, mae MenACWY yn atal clefyd meningococaidd grŵp W, a all fod yn angheuol ac a geir yn gyffredin ymhlith myfyrwyr.
Ar ôl arolygu 400 o fyfyrwyr 18-25 oed, datgelodd ymchwil Angharad bod 60.8% o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael y brechlyn MenACWY, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 29.4%.
Llid yr ymennydd:
Meddai Angharad Shambler: “Mae risg uwch o glefyd meningococaidd i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn enwedig os nad ydynt wedi’u brechu, sef pam ei fod yn bwysig eu bod yn gwybod beth yw’r arwyddion a’r symptomau.
“Mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn gwirio gyda’u meddyg teulu eu bod wedi cael yr holl frechiadau MenACWY ac MMR cyn i’r tymor ddechrau. Cynigir y pigiad MenACWY fel mater o drefn i bobl ym mlynyddoedd 9 a 10 yn yr ysgol, ond gall unrhyw un sydd heb gael eu brechu wneud hynny tan eu pen-blwydd yn 25 oed. Anogwn y myfyrwyr i weld eu meddyg teulu a gofyn am y brechlyn MenACWY cyn dechrau yn y brifysgol – mae’n gyflym, yn hawdd ac am ddim. Os nad yw hynny’n bosib, dylent gofrestru â’r meddyg teulu ar y campws a chael y brechlyn ar unwaith ar ôl cyrraedd.
“Dylai unrhyw un sy’n amau bod llid yr ymennydd arnyn nhw neu ffrind geisio cyngor meddygol ar unwaith. Mae diagnosis a thriniaeth gynnar yn hanfodol, a gall gweithredu’n gyflym achub bywydau.”
Am ragor o wybodaeth am y brechiad MenACWY, ewch i www.menacwy.co.uk.
Student Communications Officer Mercher Medi 26th, 2018
Posted In: Negeseuon, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University