Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, yn falch o gyhoeddi y bydd yr Ysgol Haf TechCyfreithiol gyntaf erioed (YHTC) yn cael ei chynnal o 5-9 Awst 2019 ar Gampws y Bae, Abertawe, DU.
Bydd YHTC yn canolbwyntio ar dechnolegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu cymhwyso i’r gyfraith, megis dysgu peiriant, cynrychioli a rhesymu gwybodaeth, prosesu iaith naturiol, ymhlith eraill. Bydd yr Ysgol Haf TechCyfreithiol yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau pellach yn cael eu dysgu gan ddarlithwyr o ddiwydiant neu’r byd academaidd.
Yn ogystal, bydd siaradwyr blaenllaw a thrafodaethau panel yn cyfeirio at ddyfodol TechCyfreithiol. Bydd y rhaglen yn berthnasol i weithwyr proffesiynol cyfreithiol yn ogystal â myfyrwyr ôl-raddedig y Gyfraith a Chyfrifiadureg. Mae’r Ysgol Haf TechCyfreithiol (LTSS) wedi ei threfnu gan Dr Adam Wyner, Darlithydd y Gyfraith a Chyfrifiadureg, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn y Gyfraith.
Defnyddiwch y ffurflen i fynegi eich diddordeb mewn mynychu’r ysgol haf. Bydd gwybodaeth bellach ynghylch y broses ymgeisio a chostau yn cael ei darparu maes o law.
Nodwch fod llefydd yn brin ac nid yw eich mynegiant o ddiddordeb yn sicrhau eich lle chi yn yr ysgol haf.
Dysgwch fwy a mynegwch eich diddordeb yn: http://bit.ly/LTSS2019
Student Communications Officer Mawrth Ebrill 23rd, 2019
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University