Hoffech chi ganu o flaen 500 o bobl yn y seremonïau graddio eleni?
Mae’r Brifysgol yn chwilio am gantorion dawnus, hyderus a phrofiadol i ganu yn ystod seremonïau graddio’r haf eleni. Telir am gostau teithio yn y DU a rhoddir tâl i ymgeiswyr llwyddiannus.
Gwybodaeth am y seremonïau Graddio
- Cynhelir y seremonïau yn y Neuadd Fawr, Campws y Bae, ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 15 – dydd Gwener 17 Gorffennaf
- Dydd Llun 20 – dydd Mercher 22 Gorffennaf
- Bydd hyd at bedair seremoni bob dydd am 09:30, 11:30, 13:15 a 16:15;
- Mae pob seremoni yn para oddeutu awr;
- Mae pob seremoni yn cynnwys perfformiad cerddorol (cân) oddeutu hanner ffordd drwy’r seremoni;
- Oherwydd cyfyngiadau o ran lle, nid oes piano ar y llwyfan, felly mae’r cantorion yn canu gyda chân gefndirol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
- Dylech fod yn ganwr hyderus a dawnus sydd â phrofiad o ganu ar eich pen eich hun o flaen cynulleidfaoedd mawr;
- Dylech fod yn gyfforddus yn canu’r math o ganeuon gofynnol:
- Yn seciwlar/nad ydynt yn grefyddol
- Yn addas i deuluoedd
- Yn llawn mynd/cadarnhaol/hwylus/ysbrydoledig
- Yn y genre theatr gerddorol neu genre poblogaidd arall
- Dyma enghreifftiau o ganeuon sydd wedi’u canu yn y seremonïau graddio yn y gorffennol:
- What a Wonderful World
- True Colors
- The Climb
- The Impossible Dream
- Don’t Be Anything Less Than Anything You Can Be
- Greatest Day
- World in Union
- Make a New Tomorrow
- Nid oes angen i chi fod ar gael ar gyfer pob seremoni – yn ddelfrydol, byddwn yn rhannu dyletswyddau ymhlith nifer o gantorion.
Manylion eraill
- Bydd y Brifysgol yn talu am gostau teithio dwyffordd yn y DU;
- Byddwn yn cynnig tâl am bob seremoni (rydym yn aros am gadarnhad o’r swm).
Sut i wneud cais
- I wneud cais, anfonwch e-bost at Abby Harries-Heat (a.e.harries-heat@abertawe.ac.uk), gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Eich enw llawn a rhif myfyriwr
- Pryd rydych ar gael yn ystod y cyfnod graddio
- Amlinelliad cryno o’ch profiad fel canwr (uchafswm o 150 o eiriau)
- Rhestr o ganeuon byddech yn gallu eu canu sy’n bodloni’r gofynion uchod
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 21 Chwefror 2020;
- Bydd y broses ddethol yn cynnwys clyweliad.
Os oes gennych gwestiynau ynglŷn ag unrhyw agwedd ar y cyfle hwn, neu’r broses gwneud cais, cysylltwch â Chyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr Ian Rutt (i.c.rutt@abertawe.ac.uk)
Student Communications Officer Llun Ionawr 27th, 2020
Posted In:
Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon