Diweddariad ar y Coronafeirws – 3 Mawrth 2020
Os ydych yn bwriadu teithio yn y dyfodol agos, dilynwch broses asesu risg arferol y brifysgol, yn unol â’r Swyddfa Dramor (FCO) a pholisi teithio rhyngwladol y brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ailasesu’r risg hyd at y diwrnod y byddwch yn teithio.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Drum Cussac a ddefnyddir ar gyfer teithio rhyngwladol, ac mae’n darparu’r cyngor teithio diweddaraf yn uniongyrchol i’ch ffôn ac mae ar gael am ddim i fyfyrwyr. I greu cyfrif, ewch i wefan Drum Cussac a chofrestrwch gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost abertawe.ac.uk.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod y cyngor a’r wybodaeth honno ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ar dudalen we bwrpasol sy’n cael ei gwirio bob diwrnod gwaith a’i diweddaru pan fo angen.
Mae’r dudalen yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am sut i ddiogelu’ch iechyd yn ogystal â iechyd pobl eraill, cyngor ar deithio, a diweddariadau ar y gefnogaeth a’r cymorth a ddarperir gan y brifysgol.
Student Communications Officer Mawrth Mawrth 3rd, 2020
Posted In: Negeseuon, Travel, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University