Annwyl Fyfyriwr,
Deallaf fod llawer ohonoch yn teimlo’n gynyddol bryderus am y sefyllfa sy’n datblygu ynghylch achosion o goronafeirws newydd (“novel coronavirus”) yn y DU.
Hoffwn eich sicrhau bod ein Prifysgol yn dilyn cyngor Llywodraeth y DU a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a Lloegr mewn perthynas â’r mater hwn, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae ein Llywodraeth a’n systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynllunio’n drwyadl ar gyfer achosion o’r math hwn er mwyn sicrhau bod y DU yn barod i ymateb mewn ffordd sy’n sicrhau diogelwch sylweddol i’r cyhoedd. Mae Llywodraeth y DU yn dilyn ei Strategaeth Clefydau Heintus ac mae wedi cyhoeddi cynllun gweithredu pedwar-cam ar gyfer ymdrin â choronafeirws, ac ar hyn o bryd mae’r DU ar y cam cyntaf o ynysu.
Deallaf bryderon ein staff a’n myfyrwyr, ond hoffwn eich sicrhau bod eich iechyd a’ch lles yn parhau i fod o’r pwys mwyaf i ni. Mae Tîm Rheoli Digwyddiadau’r Brifysgol, sy’n dwyn ynghyd gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, yn mynd ati i sicrhau y gallwn rannu’r wybodaeth fwyaf diweddar gyda chi. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion wedi’u cadarnhau o fyfyrwyr na staff yn cael eu heffeithio gan goronafeirws newydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Gyda hyn mewn golwg, ac o ddilyn y cyngor cyfredol wrth Lywodraeth y DU, mae ein Prifysgol yn parhau ar agor ac yn rhedeg yn ôl yr arfer. Rydym yn adolygu’r sefyllfa’n barhaus, yn cynllunio ar gyfer ystod o sefyllfaoedd, ac yn barod i gymryd camau priodol yn ôl yr angen.
Rwyf yn ymwybodol o sïon yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol. Argymhellaf i chi roi o’ch amser i ddarllen y cyngor ar wefan y Brifysgol, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn unol ag arweiniad diweddaraf Llywodraeth y DU. Fe’ch anogaf i ddarllen gohebiaeth fanwl i fyfyrwyr er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol. Er mwyn eich atgoffa, bydd ein negeseuon i’r holl fyfyrwyr yn cael eu cadw mewn lle canolog yng Ngylchlythyr y Myfyrwyr MyUni.
Er nad yw ein gwaith caled y tu ôl i’r llenni i gynllunio a rheoli’r sefyllfa hon, sy’n datblygu’n gyflym, yn weladwy bob amser, gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio’n galed i ddiogelu ein staff a’n myfyrwyr trwy gydol yr amser heriol hwn. Yn y cyfamser, ceir rhagor o wybodaeth a ffynonellau arweiniad isod:
Iechyd
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus sy’n canolbwyntio ar olchi dwylo. Dylech wneud pob ymdrech i ddilyn y cyngor hwn er mwyn sicrhau eich bod yn diogelu chi’ch hun a phobl eraill.
Astudio
Os yw nifer yr achosion o Hyperonofirws newydd yn effeithio ar eich astudiaethaugofynnwn i chi gysylltu â Thîm Monitro Presenoldeb y Brifysgol cyn gynted â phosib yn engagementmonitoring@abertawe.ac.uk. A wnewch chi hefyd gynnwys eich Coleg mewn unrhyw ohebiaeth.
Os oes gennych Fisa Haen 4, nid yw’n debygol y bydd effaith ar hyn ar hyn o bryd, ond bydd y Brifysgol yn cael cyngor gan y Swyddfa Gartref wrth i’r sefyllfa ddatblygu a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Ceir cyngor Adran Llywodraeth y DU yma.
Llinell Gymorth yr Adran Addysg
Mae’r Adran Addysg (DfE) wedi lansio llinell gymorth newydd i ateb cwestiynau am goronafeirws mewn perthynas ag addysg. Mae hyn ar gael i staff, rhieni a myfyrwyr, a gellir cysylltu â’r llinell gymorth ar y ffôn neu ebost.
Ffôn: 0800 046 8687
Ebost: DfE.coronavirushelpline@education.gov.uk
Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cyngor
Bydd y llywodraeth yn parhau i fonitro lledaeniad coronafeirws a chymryd camau pellach yn ôl yr angen. Cewch y wybodaeth a chyngor diweddaraf ar goronafeirws a’r arweiniad ar gyfer sefydliadau addysg ar wefan GOV.UK.
Cofion gorau,
Paul Boyle
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mawrth 6th, 2020
Posted In: Negeseuon, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University