Y Diweddaraf gan Brifysgol Abertawe am flwyddyn academaidd 2020-2021
Diolch eto am eich amynedd wrth i ni addasu i ffordd newydd o gyflwyno ein rhaglenni yn ystod Covid-19.
Gallwn dawelu eich meddwl bod staff y Brifysgol yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio gweithgarwch y dyfodol a bydd Prifysgol Abertawe’n barod i addysgu ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi yn unol â’r dyddiadau tymor a gyhoeddwyd (bydd y dyddiad dechrau’n amrywio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni sy’n arwain at gofrestriad proffesiynol).
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod addysg a phrofiad ein myfyrwyr yn parhau i fod o’r safon orau wrth ddiogelu iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff. I’r graddau y mae hyn yn bosib, caiff yr holl gyrsiau eu cyflwyno mewn ffordd ddeuol felly ceir addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Rydym yn parhau i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth sy’n newid a byddwn yn darparu mwy o fanylion ymhen amser i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’r campws ac i gymuned Prifysgol Abertawe pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
Student Communications Coordinator Iau Mai 28th, 2020
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
When you say dual way. what does that mean for international students ? I will be a new student from Canada but I am still not sure if I can take the autumn semester strictly online and be in Swansea in January. My question is can one study solely online for the first semester ?
Hello and thank you for getting in touch. It will depend which programme you are on, so I would advise you to contact your college directly to confirm this. In principle most students should be able to study solely online, however we’d be keen to have you here in Swansea. If you are a new student, you should’ve applied for a visa before enrolling to demonstrate your intent to engage in person (as and when this is possible) Hopefully this answers your question.