Y ffordd orau o reoli Covid-19 yw arfer hylendid da, megis golchi dwylo, yn ogystal â chadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw’n bosib cadw pellter rhag pobl eraill bob amser wrth i ni symud o gwmpas campws neu dreulio amser mewn ardal gaeëdig, a hynny’n anorfod.

Mae masgiau wyneb neu orchuddion wyneb addas yn ychwanegu haen arall o ddiogelwch er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19 i bobl eraill neu gael eich heintio eich hun.  Yr wythnos hon, gwnaeth y grŵp gweithrediadau Covid-19 ailystyried ein hymagwedd at fasgiau wyneb yn sgil yr amgylchiadau presennol.

Felly, rhaid i aelodau o staff a myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb:

  • Wrth symud o gwmpas campws, yn enwedig y tu mewn i adeiladau. Mae’n llai o broblem mewn ardaloedd allanol, lle mae pobl ar wasgar, ond mae masgiau a gorchuddion yn dal i fod yn rhagofal call wrth symud o gwmpas yn yr awyr agored.
  • Mewn ardaloedd caeëdig, megis siopau, mannau bwyd a derbynfeydd mewn mannau addysgu, labordai a swyddfeydd lle mae’n anodd cadw pellter cymdeithasol.

Mae’n bwysig gwisgo a thynnu masgiau wyneb yn gywir. Ceir digon o gyngor ar-lein ynghylch sut i wneud hyn, megis cyngor Sefydliad Iechyd y Byd  I grynhoi:

  • Golchwch eich dwylo’n drwyadl cyn gwisgo’r masg, neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo ag alcohol.
  • Gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn â’r masg a gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei gysylltu’n dynn.
  • Peidiwch â chyffwrdd â’r masg pan fyddwch yn ei wisgo – os gwnewch hynny, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.
  • Pan fyddwch yn tynnu’r masg, peidiwch â chyffwrdd â’r tu blaen – tynnwch ef gerfydd y dolenni a golchwch eich dwylo.

Bydd gan rai pobl reswm da dros beidio â gwisgo masg, ni fydd bob amser yn amlwg a oes gan rywun esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb.  Byddwch yn ystyriol a barchwch amgylchiadau o’r fath.

Nid masgiau neu orchuddion wyneb yw’r brif ffordd o ddiogelu pobl rhag Covid-19 – hylendid da a chadw pellter yw’r ffyrdd gorau. Er mwyn helpu yn hyn o beth, byddwn yn parhau i gyflenwi hylif diheintio, glanhau’r ddau gampws yn drwyadl, cyfyngu ar nifer y bobl ar gampws er mwyn ei gwneud yn haws cadw pellter, a chadw pellter o 2m mewn ardaloedd addysgu.  Bydd cyflenwad parod o orchuddion wyneb ar y ddau gampws i aelodau o staff neu fyfyrwyr nad ydynt yn berchen ar un neu sydd wedi ei anghofio.

Gwener Awst 28th, 2020

Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Llesiant

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University