Mae’r Brifysgol wedi llunio Siarter Myfyrwyr Atodol newydd mewn ymateb i bandemig Covid-19 y mae’n rhaid i bob myfyriwr gytuno arni fel rhan o’r broses o gofrestru ar-lein. Bwriad y Siarter Myfyrwyr Atodol yw parchu diogelwch personol myfyrwyr, aelodau o staff a’r gymuned ehangach drwy sicrhau ein bod i gyd yn helpu i wneud yn siŵr bod y Brifysgol yn fan diogel i astudio a gweithio ynddo o hyd. Disgwylir i fyfyrwyr ddilyn gofynion Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe ynghylch iechyd a diogelwch a chadw pellter cymdeithasol ar gampws, mewn neuaddau preswyl ac yn y gymuned ehangach. Gall unrhyw achos o dorri’r disgwyliadau yn Siarter y Myfyrwyr arwain at gamau disgyblu.
Mae’r cosbau posib yn amrywio o gynnig ymddiheuriad, cyflwyno rhybuddion ysgrifenedig ffurfiol neu gontract ymddygiad, i atal tramgwyddwyr dros dro neu eu gwahardd o’r Brifysgol.
Mae Tîm Diogelwch y Campws yn weithredol bob awr o’r dydd ac os bydd yn rhaid iddynt ymyrryd oherwydd adroddiad o aflonyddwch mewn llety ar y campws yna ymdrinnir â myfyrwyr yn unol â pholisïau’r Brifysgol. Mae Tîm Cymunedol ein Gwasanaethau Myfyrwyr a’r heddlu yn mynd ar batrolau yn yr ardal leol a byddant yn rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydym yn gofyn i chi ymddwyn ag urddas a pharch tuag at eich gilydd, staff y Brifysgol ac aelodau o’r gymuned ehangach, chwarae rôl gadarnhaol wrth annog pobl eraill i ddilyn y canllawiau a bod yn rhagweithiol wrth gymryd mesurau personol i leihau risgiau i chi eich hun ac i bobl eraill.
Student Partnership and Engagement Manager Llun Tachwedd 2nd, 2020
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
I can’t believe the University has taken to threats of disciplinary action to the whole student body over the actions of a handful of students. Promoting messages like these as headline topics in the student newsletter further seek to erode students’ already battered mental health given the current international crises.
Once again, I’m disappointed but frankly not surprised that the University has chosen to protect its image over its students’ welfare.
We are aware the majority of our students are following Government guidelines and social distancing measures, however there are a minority who unfortunately are not which could have wider consequences across our community. We have a responsibility to remind all students of the guidelines and possible consequences of breaking these, as some feedback has stated students were unaware of all regulations. Student welfare, including the mental wellbeing of our students remains our top priority and we have introduced a number of services to support students in these difficult times, including a dedicated team of staff to help students in self-isolation. Throughout the outbreak and the fire-break, we have communicated with students to promote welfare services and will continue to ensure these are available. Student welfare is the focus of why we are trying to keep students and the wider community safe and limit the spread of the virus.