Diweddariad Covid-19 – Cyfnod clo lleol
Yn dilyn cynnydd mewn achosion coronafirws (COVID-19) yn ardal Abertawe, mae cyfyngiadau newydd newydd gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a fydd yn gweld Abertawe yn cael ei roi dan gyfnod clo lleol o 6pm ddydd Sul (27 Medi).
Felly, beth mae hyn yn ei olygu i’n myfyrwyr?
Ar hyn o bryd bydd hyn ond yn berthnasol i gampws Singleton gan fod campws y Bae wedi’i leoli yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Bydd yr ardal hon hefyd yn cael ei hadolygu dros y penwythnos ac mae’n ddigon posibl y bydd yn rhan o’r cyfyngiadau lleol ar y cyd ag Abertawe, byddwn yn eich diweddaru pan ddaw mwy o wybodaeth i law.
Mae atebion i gwestiynau ynghylch y cyfyngiadau diweddaraf hyn yn cael eu paratoi a byddant ar gael ar dudalennau MyUni. Y prif gyfyngiadau yw:
Peidiwch ag anghofio bod y Tîm MyUniSupport yma i’ch helpu chi. Os ydych chi’n hunan-ynysu, cysgodi neu wedi profi’n bositif am Covid-19, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu darparu cefnogaeth i chi.
Gallwch hefyd gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â sefyllfa Covid-19 neu’r rheolau cloi lleol newydd yn Abertawe.
Cysylltwch â ni trwy e-bost: myunisupport@abertawe.ac.uk
Bydd cyfyngiadau hefyd yn dod i rym yn Llanelli, Caerdydd a Sir Gaerfyrddin y penwythnos hwn.
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Medi 25th, 2020
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University