Diweddariad ar wasanaethau’r Brifysgol yn ystod y ‘seibiant tân’ am bythefnos: Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Llun am y ‘seibiant tân’ am bythefnos, hoffwn dawelu eich meddyliau nad oes newidiadau i addysgu ym Mhrifysgol Abertawe.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at ein gwasanaethau, serch hynny bydd newid bach i rai o’n horiau agor oherwydd rheoliadau’r Llywodraeth yn ystod yr amser hwn.
Ceir yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau ac oriau agor isod.
Ceir gwybodaeth am y lleoedd y gellir eu harchebu a’r oriau agor ar-lein.
Costcutter – Singleton
Ar agor fel arfer: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am-10pm, dydd Sadwrn a dydd Sul 9am-10pm
Tesco – Campws y Bae
Ar agor fel arfer: 6am – ganol nos bob dydd
Y Gegin Clicio a Chasglu
Ar agor ar Singleton a’r Bae o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am–6pm ar gyfer casglu ac 8am – 3pm ar gyfer dosbarthu. Rhagor o wybodaeth ar-lein yma.
Y Gegin, Campws Parc Singleton a Chownter Fusion yn y Craidd, Campws y Bae
Mae gwasanaeth cludfwyd cynnes ar gael o 8am tan 2.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
*Sylwer, bydd Callaghan’s ar Gampws Parc Singleton a Costa yn y Coleg ar y Bae ar gau am gyfnod y seibiant tân.
Darllenwch dudalennau gwe Arlwyo.
Effeithir ar deithio ar y bws yn ystod y seibiant tân, serch hynny bydd gwasanaethau 8 a 10 o Gampws i Gampws yn parhau yn unol â’r amserlen bresennol
Effeithir ar wasanaethau eraill gan gynnwys X1, X5 a 38 sy’n rhedeg bob awr rhwng Gorsaf Fysiau’r Cwadrant a Champws y Bae – gallwch gael rhagor o wybodaeth ar dudalen we covid-19 First Cymru.
Bydd y gwasanaethau Parcio a Theithio ar gau am y cyfnod cyfan. Gwybodaeth ar gael ar dudalen we Cyngor Abertawe.
Cadwch lygad ar dudalen we teithio ar y bws am bopeth y mae angen i chi ei wybod yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Canolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr ar gael o bell.
E-bost: advice@swansea-union.co.uk
Ffôn: 01792 295 821
Gallwch hefyd anfon cais atom i ofyn inni gysylltu â chi drwy eich dull dewisol gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt
Sesiynau galw heibio ar Zoom: 9.30am-12pm bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yma, lle byddwch yn cyrraedd ystafell aros ddigidol nes bydd un o’n cynghorwyr ar gael i siarad â chi.
Gwasanaeth Lles
Ceir gwybodaeth ar ein Ffurflen Gyswllt Lles ar ein tudalennau gwe.
Togetherall
Mae Togetherall yn darparu cymuned ar-lein anhysbys yn ogystal â mynediad i adnoddau defnyddiol a chyrsiau hunan-gymorth wedi’u teilwra sy’n trafod pynciau megis gorbryder, straen, cwsg, rheoli pwysau, iselder a llawer mwy. Mae Togetherall yn cael ei monitro gan Arweinwyr proffesiynol a hyfforddedig i sicrhau diogelwch ac anhysbysrwydd fel y gallwch fynegi eich hun yn rhydd ac yn agored.
I gyrchu Togetherall, ewch i https://account.v2.togetherall.com/register a chofrestru am ddim gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost yn y brifysgol.
Os teimlwch fod angen cymorth ar frys arnoch i ddatrys eich anawsterau, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’ch meddyg teulu neu GIG Cymru drwy ffonio 111 i dderbyn unrhyw ofal a chymorth statudol y gallai fod eu hangen arnoch.
Am restr lawn o gymorth sydd ar gael ewch i Adnoddau Iechyd Meddwl yn ystod Covid-19
Bydd yr holl gyfleusterau chwaraeon ar gau o 6pm nos Wener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd. Bydd y cyfleusterau’n ail-agor ar 9 Tachwedd. Rhaid trefnu sesiynau ymlaen llaw ar-lein. Neu os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch: sports-village-admin@abertawe.ac.uk. Yn ystod y cyfnod hwn bydd amrywiaeth o weithgareddau a sesiynau ar gael ar-lein.
Ar gyfer y newyddion diweddaraf am gyfleusterau chwaraeon dilynwch @sportswansea ar y cyfryngau cymdeithasol neu darllenwch dudalennau gwe’r cyfleusterau
I gael rhagor o wybodaeth am Covid-19, darllenwch y tudalennau gwe dynodedig. Cofiwch barchu rheoliadau’r Llywodraeth yn ystod yr adeg hon a helpu i’ch amddiffyn chi a’r gymuned o’ch amgylch.
Student Communications Officer Mercher Hydref 21st, 2020
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Travel, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University