Profion Covid-19 Asymptomatig 24.11.20: Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael caniatâd i gynnal profion Covid-19 asymptomatig ar gyfleusterau ar y ddau gampws rhwng 2 a 9 Rhagfyr.
Fe’ch anogir i gael eich profi (dau brawf gyda bwlch o dridiau rhyngddynt, yn ddelfrydol) cyn teithio adref o Brifysgol Abertawe er mwyn osgoi trosglwyddo’r feirws os ydych yn asymptomatig (sef heb symptomau). Rhennir y manylion ynghylch sut i drefnu prawf cyn bo hir.
Gwaetha’r modd, ni fyddwn yn gallu profi pob myfyriwr oherwydd cyfyngiadau amser, felly rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n wynebu mwy o berygl neu’r rhai sy’n byw gyda rhywun y mae Covid-19 yn fwy peryglus iddynt.
Sut caiff y profion eu cynnal?
Dylai myfyrwyr gael dau brawf llif unffordd gyda bwlch o dridiau rhyngddynt cyn mynd adref:
Rydym wrthi’n diweddaru ein tudalennau gwe a bydd rhestr lawn o gwestiynau cyffredin ar gael ar-lein. Gellir tawelu eich meddwl y bydd y Brifysgol yn eich cefnogi os byddwch yn cael prawf positif ac yn gorfod hunanynysu.
Os oes gennych symptomau Covid-19, peidiwch â threfnu prawf asymptomatig – gellir cael profion am Covid-19 yn lleol yn ôl yr angen drwy ffonio 01639 862757. Yn ogystal, mae Safle Profi Lleol yn Theatr y Grand yng nghanol dinas Abertawe sydd ar agor o 8am i 8pm bob dydd. Rhaid trefnu apwyntiadau drwy wefan Llywodraeth Cymru.
Os byddwch yn dewis teithio adref ar gyfer y Nadolig, byddem yn eich annog i gyflawni eich gweithgaredd olaf ar gampws a chael dau brawf asymptomatig negatif cyn gwneud hynny. Rydym yn gobeithio ymestyn y profion ar ôl 9 Rhagfyr i’r rhai sy’n byw yn Abertawe neu sy’n aros dros gyfnod y Nadolig. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion pan gânt eu cadarnhau.
Teithio Rhyngwladol
Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau ar fynediad, gofynion sgrinio neu gwarantin sy’n benodol i’r wlad rydych yn bwriadu teithio iddi. Efallai na fydd y dull hwn o gynnal profion asymptomatig yn cael ei dderbyn at ddibenion mynediad gan rai gwledydd. Felly, byddai angen i chi drefnu prawf annibynnol. Ceir y manylion yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi e-bostio MyUniSupport@abertawe.ac.uk i ofyn am gymorth.
Student Partnership and Engagement Manager Mawrth Tachwedd 24th, 2020
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University