Diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses profion llif unffordd dros y pythefnos diwethaf.
Mae’r rhaglen a ariannwyd gan y Llywodraeth bellach wedi dod i ben, fodd bynnag rydym yn ymwybodol nad oedd modd i rai myfyrwyr dderbyn y prawf oherwydd eu hymrwymiadau rhaglen.
Felly mae Prifysgol Abertawe wedi dewis cynnal rhaglen brofi ar gyfer y carfanau canlynol yr wythnos nesaf:
Os ydych wedi cael prawf ac wedi derbyn canlyniad positif ar gyfer Covid, neu os cewch ganlyniad positif pan gewch eich profi’r wythnos nesaf, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni drwy MyUniSupport@abertawe.ac.uk
Yn unol â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru, byddwn yn cynnal rhaglen brofi ym mis Ionawr i sicrhau y bydd hi’n ddiogel i’n myfyrwyr ddychwelyd i’r campws. Rydym wrthi’n archwilio’r logisteg a’r lleoliadau i gynnal y rhaglen ar y ddau gampws a byddwn yn cysylltu â chi i roi’r union fanylion ichi.
Sicrhewch eich bod yn gwirio eich negeseuon gan y Brifysgol cyn ichi ddychwelyd.
Os oes gennych ymholiadau ynghylch Covid-19, gallwch gysylltu â MyUniSupport@abertawe.ac.uk a fydd yn hapus i’ch cynghori
Student Partnership and Engagement Manager Llun Rhagfyr 14th, 2020
Posted In: Negeseuon, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University