Mae Ffydd & Gymuned @BywydCampws wedi trefnu ychydig o ddigwyddiadau cyffrous am y Ionawr yr hoffem eu rhannu â chi.
Pryd: Bob dydd Mawrth am 8:30am a phob dydd Iau am 1:30pm
Angen amser ar eich cyfer chi eich hun? Teimlo’n orbryderus, yn aflonydd, neu wedi’ch diflasu?
Mae ein sesiynau myfyrio ar-lein yn wych ar gyfer creu ‘amser i fi fy hun’ yn ystod amserlen brysur iawn neu ar gyfer dechrau ymarfer myfyrio bob dydd.
Bydd angen rhywle tawel a chyffyrddus i eistedd arnoch chi.
I dderbyn y ddolen Zoom, e-bostiwchfaith.campuslife@abertawe.ac.uk
Dyddiad cychwyn: Nos Fercher, 6 Ionawr 2021 | Amser: 6 pm |Lleoliad: Zoom
Cael trafferth wrth ddarllen y Quran? Mae Dr Mohsen wedi llunio cwrs i feithrin eich sgiliau darllen a llefaru’r Quran. Ar agor i frodyr a chwiorydd, bydd yn dechrau ar 6 Ionawr 2021. Cynhelir y gwersi drwy Zoom bob nos Fercher o 6pm.
Anfonwch e-bost at Dr Mohsen er mwyn cofrestru – m.el-beltagi@swansea.ac.uk
Dyddiad: Dydd Llun 18fed Ionawr 2021 | Amser: 7pm | Lleoliad: trwy Zoom
Gwahoddir pob unigolyn LGBT+ â ffydd i rannu, cysylltu, a gwneud ffrindiau. Mae hwn yn lle cyfrinachol lle y gall pawb fod ei hun. Thema’r cynulliad hwn fydd ‘Duw, Fi ac LGBT’.
Y cyflwynydd fydd Rory Castle Jones, myfyriwr gweinidogaeth o Eglwys Undodaidd Abertawe. Gallwch chi anfon neges e-bost ato os oes gennych chi gwestiynau yn rorycastle@hotmail.co.uk neu gallwch chi gofrestru o flaen llaw gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZckdequqz4vHtFQmH98bFpBF3w3gX5HxWLX
Dyddiad Dechrau: 19eg Ionawr 2021, am 6 wythnos
Amser: 7:00 PM – 8:00 PM
Lleoliad: Zoom
Mae’r rhaglen hon yn archwilio sut i fyw bywyd ysbrydol yn yr 21ain ganrif, mewn cyfnod o bandemig byd-eang, newid yn yr hinsawdd a phryderon eraill. Mae croeso i bawb, waeth beth yw eich ffydd neu’ch credoau. I gofrestru, e-bostiwch Rory Castle-Jones a fydd yn cynnal y digwyddiad hwn ar y cyd ag Eglwys Undodiaid Abertawe
Dyddiad Dechrau: Dydd Mawrth 19 Ionawr 2021
Amser: 3:00 PM – 4:00 PM
Lleoliad: Zoom
Mae’r grŵp hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi colli rhywun, boed yn aelod o’r teulu neu’n ffrind, yn ddiweddar neu amser maith yn ôl. Os ydych yn teimlo effeithiau galar, ymunwch â ni yn y sesiynau diogel hyn lle bydd staff proffesiynol wrth law i helpu. Cynhelir y grŵp yn wythnosol.
I dderbyn y ddolen Zoom, e-bostiwch faith.campuslife@abertawe.ac.uk
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i fyfyrwyr a staff. Mae’n cynnig clust i wrando i unrhyw un sydd ei hangen. Does dim angen trafod mater neu broblem benodol. Weithiau, mae’n braf siarad yn syml.
Student Partnership and Engagement Manager 02:02 pm
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University