Mae apwyntiadau ychwanegol bellach ar agor ar gyfer Profion Llif Unffordd o 25ain Ionawr. Os ydych chi’n weithredol ar y campws, trefnwch brawf.
I archebu prawf ewch i
Campws Singleton:
Campws y Bae:
Bydd angen i chi gael dau brawf, gan adael tri diwrnod rhyngddynt. Dylai myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn profion beidio â chymysgu ag eraill neu fynd allan am y tri diwrnod rhwng y profion. Hefyd anogir y rhai sydd wedi dychwelyd cyn eu hapwyntiad ar gyfer eu prawf i beidio â chymysgu ag eraill neu fynd allan am gyfnod o 10 niwrnod neu tan eich bod wedi mynychu’r ddau apwyntiad profi.
Mae hyn yn golygu bod yn ofalus iawn i leihau cysylltiadau cymdeithasol a dim ond mynd allan at ddibenion hanfodol megis gofal meddygol neu i wneud ymarfer corff ar eich pen eich hun neu gyda rhywun sy’n byw yn eich aelwyd.
Er mwyn i ni eich cefnogi chi, rhowch wybod i ni os ydych yn cael prawf cadarnhaol am Covid-19 os ydych yn Abertawe neu’n rhywle arall. Gallwch e-bostio myunisupport@abertawe.ac.uk i roi gwybod i ni am ganlyniad cadarnhaol.
Peidiwch â threfnu prawf os ydych chi’n dangos symptomau Covid-19 neu os ydych chi wedi derbyn canlyniad prawf Covid-19 positif ac yn dal i hunanynysu’n dilyn hyn.
Am restr gyflawn o Gwestiynau Cyffredin, ewch i’n tudalennau gwe penodol.
Student Partnership and Engagement Manager Iau Ionawr 21st, 2021
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University