Rydym yn deall bod gan ein myfyrwyr bryderon ynghylch pandemig parhaus Covid, a hoffem eich sicrhau ein bod yn ymroddedig i’ch cefnogi i gyflawni’ch canlyniad gorau.
Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn cydweithio er mwyn llunio Fframwaith Dim Anfantais a fydd yn sicrhau y caiff ein myfyrwyr eu trin yn deg wrth gynnal a diogelu gwerth eich gradd.
Mae’r fframwaith hwn yn adeiladu ar nifer o newidiadau yr ydym wedi’u gwneud eisoes er mwyn diogelu ein myfyrwyr, a bydd ar waith i’ch cefnogi yn ystod sesiwn academaidd 2020-21. Rhestrir yr egwyddorion allweddol isod.
Rydym wedi darparu Cwestiynau Cyffredin er mwyn sicrhau eich bod yn deall y newidiadau i’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol. Sylwer: oherwydd y pandemig, mae Colegau ac Ysgolion yn rheoli swm uchel o geisiadau am Amgylchiadau Esgusodol gan fyfyrwyr ar hyn o bryd. Ein nod yw osgoi oedi, ac rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl er mwyn ystyried yr holl geisiadau. Os ydych chi wedi cyflwyno cais, nid oes angen ail-gyflwyno a byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Mae asesiadau wedi cael eu llunio er mwyn adlewyrchu’r newid i ddysgu cyfunol.
Caiff myfyrwyr amser llawn sy’n methu hyd at 60 credyd eu cyflwyno’n awtomatig am asesiad atodol ym mhob modiwl a fethwyd.Caiff myfyrwyr rhan-amser sy’n methu modiwlau eu cyflwyno’n awtomatig am asesiad atodol ym mhob modiwl a fethwyd. Bydd myfyrwyr sy’n gymwys am oddefiant yn cael opsiwn i wneud yr asesiad atodol NEU dderbyn Methiant a Oddefir. Caiff marciau eu capio’n unol â rheoliadau cyffredin, oni bai fod Amgylchiadau Esgusodol priodol.
Bydd Bwrdd Arholi’r Brifysgol yn adolygu perfformiad myfyrwyr ar lefel y modiwl ac yn cymharu perfformiad â pherfformiad ar yr un modiwl dros gyfnod o 5 mlynedd (pan fydd y data ar gael), er mwyn sicrhau bod cyffelybrwydd.
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn adolygu ac yn ystyried perfformiad pob myfyriwr yn unol â’r rheoliadau asesu. Bydd addasiadau dros dro i fodiwlau ar ôl cyfnod asesu bloc addysgu 1. Bydd yr holl farciau’n farciau dros dro nes y cânt eu cadarnhau gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar ddiwedd y flwyddyn.Bydd myfyrwyr yn derbyn marciau wedi’u cadarnhau ar ôl y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau perthnasol.
Ar gyfer Myfyrwyr Israddedig Blwyddyn Olaf:
Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf nad ydynt yn bodloni’r isafswm credydau sy’n ofynnol ar gyfer dyfarniad (hynny yw, nid ydynt yn gymwys am fethiant a oddefir) yn cael cynnig ail-wneud pob modiwl a fethwyd. Caiff marciau eu capio’n unol â rheoliadau perthnasol, oni bai fod Amgylchiadau Esgusodol priodol.
Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf sy’n cymhwyso ar gyfer eu gradd â methiannau a oddefir yn cael cyfle i dderbyn eu gradd neu ail-wneud y modiwl/au a fethwyd.
Caiff Dosbarthiadau Gradd myfyrwyr blwyddyn olaf yn 2020-21 eu diogelu yn unol â’r Polisi Rhwyd Ddiogelwch 2019-20. Ceir rhagor o fanylion ar-lein.
Caiff myfyrwyr sydd wedi cofrestru am raglenni sy’n arwain at gofrestru’n broffesiynol, neu raglenni eraill sy’n achosion arbennig yn ôl diffiniadau Colegau/Ysgolion, eu cynnwys yn yr ymagwedd Dim Anfantais. Fodd bynnag, oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol, efallai bydd amrywiadau o ran sut caiff y fframwaith ei weithredu. Bydd eich Coleg/Ysgol yn rhoi gwybod ichi am sut bydd yr ymagwedd yn gweithredu ar gyfer eich rhaglen benodol.
Ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir
Rydym wedi cadw’r newidiadau a wnaed i system y dosbarthiadau ar gyfer Pasio, Teilyngdod a Rhagoriaeth ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir a gyflwynwyd yn ystod y sesiwn 2019/20. Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am fanylion.
I Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig:
Dylid trafod â’ch goruchwylydd unrhyw effaith ar eich ymchwil a achosir gan bandemig COVID, ac yna dylid ei chofnodi yn y swyddogaeth cyfarfodydd ad-hoc yn y System Rheoli Ymchwil (e-Vision RMS).
Rydym yn gobeithio bod y trefniadau newydd hyn, ynghyd â’r hyn sydd gennym ar waith eisoes, yn helpu ein myfyrwyr â heriau parhaus y pandemig.
Am restr gyflawn o Gwestiynau Cyffredin, ewch i’n tudalennau gwe penodol.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch yr uchod, cysylltwch â’ch Coleg neu â’ch Ysgol.
Student Communications Coordinator 02:29 pm
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
Today the updated news did not mention about students who are in rented private commodation ? Any compensation for it? Does anyone still recognize this forgotten Conner?
Hi there, I’m afraid we are unable to control private accommodation costs, but the hardship fund mentioned in this article is there to help students if they’re struggling financially.
https://swansea.ac.uk/money-campuslife/hardship-funds/
Thank you for the quick response! but the problem are still there as I know. Only 30% students in University hall. Do you think 70% students on strike will sort out the problem?