Mae Student Space yma i wneud pethau’n haws i chi ddod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnoch ei hangen yn ystod pandemig y coronafeirws.
Sut bynnag rydych chi’n teimlo, mae help a chyfarwyddyd ar gael. Edrychwch ar wybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu chi gyda heriau bywyd fel myfyriwr.
Mae tair ffordd y gall Student Space eich helpu chi yn ystod y pandemig:
Mae’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu gan Student Space yn ddiogel, cyfrinachol ac wedi’i datblygu gyda myfyrwyr ac arbenigwyr mewn llesiant ac iechyd meddwl myfyrwyr. Byddwn yn ychwanegu gwasanaethau a gwybodaeth newydd at y platfform yn rheolaidd yn unol ag anghenion y myfyrwyr fel maent yn dod i’r amlwg, i sicrhau ei fod yn berthnasol i chi.
Mae Student Space yn cael ei weithredu gan Student Minds, elusen iechyd meddwl myfyrwyr y DU. Mae wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â gwasanaethau, gweithwyr addysg uwch proffesiynol, ymchwilwyr a myfyrwyr i ategu’r gwasanaethau presennol sydd ar gael i fyfyrwyr.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyllido yn llawn gan Office for Students a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Student Space ar gael i bob myfyriwr addysg uwch yng Nghymru a Lloegr.
Mae Student Space yma i chi drwy’r coronafeirws.
Student Communications Coordinator 12:54 pm
Posted In: Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University