Dros y penwythnos, rydym wedi derbyn adroddiadau gan staff diogelwch a Heddlu De Cymru nad oedd ymddygiad rhai o’n myfyrwyr yn cydymffurfio â rheoliadau Covid.
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y cydweithrediad a’r gefnogaeth sydd wedi bod yn amlwg ymhlith ein cymuned o fyfyrwyr ynghyd â’r ymdrechion i gynnal amgylchedd diogel yn sgîl pandemig Covid-19. Fodd bynnag, hoffem eich atgoffa y cymerir camau disgyblu yn erbyn myfyrwyr sy’n mynd yn groes i’r disgwyliadau a amlinellir yn Siarter y Myfyrwyr neu ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Ceir gwybodaeth isod am reoliadau presennol y Brifysgol a Llywodraeth Cymru ynghylch Covid. Fel y gwyddoch yn sgîl negeseuon gan y Brifysgol a Llywodraeth Cymru, mae gennym ni oll rwymedigaeth gyfreithiol a chyfrifoldeb cymdeithasol at ein gilydd i gydymffurfio â’r canllawiau a chadw ein gilydd yn ddiogel.
Swigod/Cymysgu
Eich fflat neu’ch tŷ yw eich ‘aelwyd’, ac yn unol â chyfyngiadau argyfwng lefel 4 presennol, ni chaniateir i chi gwrdd dan do ag unrhyw un nad yw’n rhan o’ch aelwyd.
Caniateir i chi gwrdd yn yr awyr agored i wneud ymarfer corff gyda hyd at 4 o bobl o 2 aelwyd ar y mwyaf, yn unol â’r rheoliadau.
Cysylltwch â ni os ydych chi’n credu bod gennych chi amgylchiadau eithriadol cyn cymysgu y tu allan i’ch swigen.
Ceir manylion pellach drwy’r ddolen Cwestiynau Cyffredin: Aelwydydd Myfyrwyr – Prifysgol Abertawe a Lefel Rhybudd 4: cwestiynau cyffredin |LLYW.CYMRU
Ar y campws ac yn y gymuned
Rhaid ichi wisgo gorchudd wyneb drwy’r amser (oni bai eich bod wedi’ch eithrio) wrth symud o gwmpas y campws, a rhaid ichi lynu wrth weithdrefnau cadw pellter cymdeithasol. Byddwch yn ystyriol o ddiogelwch eich cyd-fyfyrwyr a’ch staff.
Cofiwch, os ydych chi’n defnyddio’r traeth neu’r parciau lleol at ddibenion ymarfer corff, ewch â’ch sbwriel gyda chi a dangoswch barch at yr amgylchedd lleol.
Rheoliadau
Oherwydd ei bod yn sefyllfa newidiol, yn aml caiff rheoliadau eu diweddaru’n ddyddiol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gywir a chyfoes ar y tudalennau canlynol.
Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU
Cwestiynau Cyffredin am y Coronafeirws – Prifysgol Abertawe
Os nad ydych chi’n sicr am eich sefyllfa, neu os bydd angen rhagor o gyngor neu gymorth arnoch, cysylltwch â’r tîm yn myunisupport@abertawe.ac.uk.
Student Communications Coordinator Iau Mawrth 4th, 2021
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University