Diweddariad ynghylch Rheoliadau Covid gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau presennol ar symud yng Nghymru yn sgîl y coronafeirws.
Caiff y gofyniad “aros gartref” ei ddileu o 13 Mawrth a’i ddisodli gan ofyniad “aros yn lleol”, fel rhan o ymagwedd fesul cam at lacio cyfyngiadau yn sgîl y coronafeirws. Bydd y rheol newydd i aros yn lleol yn golygu y bydd pobl yn cael gadael eu cartrefi a theithio o fewn eu hardal leol – o fewn pum milltir fel arfer.
Y pwyntiau allweddol i’w nodi yw:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ynghylch Addysg Uwch heddiw (15fed Mawrth). Byddwn ni’n adolygu’r wybodaeth hon ac yn rhoi diweddariad i chi ynghylch trefniadau profi ar gyfer ar ôl gwyliau’r Pasg a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer cymuned y Brifysgol.
Yn y cyfamser, parhewch â’ch dysgu a’ch trefniadau ymchwil presennol a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r diweddaraf o ran canllawiau presennol Llywodraeth Cymru, neu’r canllawiau ar gyfer yr ardal lle yr ydych chi’n aros.
Cymerwch ofal ac arhoswch yn ddiogel.
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Mawrth 12th, 2021
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University