Bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda Meddyg Teulu cyn i chi allu cael eich brechlyn ar gyfer Covid. Er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl, rydym yn annog i chi gofrestru os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny.
I sicrhau eich bod chi’n derbyn hysbysiad am ddau ddos brechlyn Covid-19, rhaid eich bod chi wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu sy’n lleol i le rydych chi’n byw.
Nid yw’n bosib cofrestru dros dro ar hyn o bryd ac felly mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cofrestru’n brydlon gyda Meddyg Teulu lleol wrth symud rhwng eich llety myfyriwr a chyfeiriad eich cartref dros gyfnod yr haf.
Mae canllawiau ar gofrestru ar-lein yn hwylus ac yn ddiogel ar gael yma.
Mae gwybodaeth am frechlyn Covid-19 ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Student Communications Officer Llun Mawrth 29th, 2021
Posted In: Negeseuon, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University