Trefniadau Tymor yr Haf ar gyfer yr holl Fyfyrwyr 14.04.21: Yn dilyn newidiadau Llywodraeth Cymru i reoliadau Covid, roeddem am gysylltu i gadarnhau’r trefniadau canlynol ar gyfer tymor yr haf.
Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu bod newidiadau i’r ffordd rydym yn gweithredu o hyd, serch hynny rydym yn ymrwymedig i ddarparu’r profiad myfyrwyr gorau posib wrth gydbwyso hyn â’ch diogelwch a’r rheoliadau presennol.
Rydym yn falch o gyhoeddi o 19 Ebrill, bydd llyfrgelloedd y Bae a Singleton yn cynnig oriau agor hwy a mwy o leoedd astudio y gallwch eu cadw. Bydd manylion ar gael ar dudalennau gwe’r llyfrgell. Hefyd mae nifer o fannau astudio anffurfiol ar gael ar y ddau gampws.
Rydym hefyd yn gyffrous i ddweud bod y Brifysgol wedi darparu cyllid ychwanegol i roi hwb i Undeb y Myfyrwyr er mwyn sicrhau y gallwn roi mannau agored cymdeithasol newydd ar waith cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau a’r logisteg yn caniatáu. Bydd rhagor o wybodaeth am hyn maes o law.
Mae Cronfa Cymorth i Fyfyrwyr bellach ar agor i fyfyrwyr sy’n cael trafferth talu am dreuliau hanfodol o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig presennol. Gallwch gyflwyno ceisiadau yma.
Fel a nodwyd gynt, mae’r trefniadau canlynol ar waith ar gyfer dysgu ac addysgu:
I’r myfyrwyr hynny sy’n bwriadu dychwelyd i Abertawe ar gyfer tymor yr haf, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen trefniadau profi argymelledig cyn i chi deithio. Rydym yn gofyn i fyfyrwyr gael prawf cyn iddynt deithio ac wrth ddychwelyd i’r Brifysgol.
Rydym yn gwybod bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn heriol, serch hynny mae angen eich cydweithrediad llawn arnom o hyd i sicrhau eich bod chi a’ch anwyliaid yn parhau i fod yn ddiogel.
Rhaid dilyn mesurau diogelwch hollbwysig er mwyn cadw achosion Covid i lawr a sicrhau bod cyfyngiadau’n parhau i gael eu llacio’n genedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn dilyn canllawiau ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich cymorth.
Yn arbennig, rydym yn gofyn i chi dalu sylw i’r gofynion canlynol:
Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, e-bostiwch MyUniSupport. Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf a newyddion ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol myfyrwyr presennol MyUni.
Student Communications Officer Mercher Ebrill 14th, 2021
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University