Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar bolisi ‘Diogelu Myfyrwyr’ er mwyn sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol neu’r rhai sy’n teithio o dramor yn gallu ynysu’n ddiogel am y cyfnod angenrheidiol wrth gyrraedd Cymru.
Byddwch yn ymwybodol efallai y byddwch chi’n destun camau gorfodi’r gyfraith os nad ydych chi’n cydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol i hunan-ynysu wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig a chydymffurfio â’r contract llety â chymorth.
Beth yw Diogelu Myfyrwyr?
Mae’r polisi Diogelu Myfyrwyr ar gyfer pob myfyriwr sydd wedi teithio trwy wlad ar y rhestr Ambr yn ystod y 10 niwrnod cyn teithio i’r Deyrnas Unedig.
I helpu i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo mewn cartrefi a rennir, bydd y Brifysgol yn darparu llety â chymorth penodedig ar gyfer hyd y cyfnod hunan-ynysu 10 niwrnod wrth gyrraedd y Deyrnas Unedig.
Bydd y cymorth yn cynnwys:
Os ydych chi ar fin teithio i’r Deyrnas Unedig o wlad ar y rhestr Ambr yn ystod yr wythnosau neu’r misoedd nesaf, mae’n rhaid i chi roi gwybod i myunisupport@abertawe.ac.uk ar unwaith. Yna, bydd y tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau manylion eich trefniadau teithio a byddant hefyd yn rhoi canllawiau pellach o ran y polisi Diogelu Myfyrwyr a’r gefnogaeth y mae’r Brifysgol yn ei chynnig (yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru).
Mae’n rhaid i lety Diogelu Myfyrwyr gael ei archebu cyn i chi gyrraedd y Deyrnas Unedig er mwyn i chi allu nodi’r cyfeiriad hwn ar eich ffurflen dod o hyd i deithwyr.
Mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y mater hwn neu unrhyw faterion sy’n ymwneud â phandemig Covid-19.
Cofion gorau,
MyUniSupport
Student Communications Coordinator Gwener Mai 21st, 2021
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University