Dyma alwad am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn ein Digwyddiad Wythnos Ymwybyddiaeth o Ffoaduriaid ar 16 Mehefin, 6.30pm, lle rydym yn gobeithio dangos ffilm i gynyddu ymwybyddiaeth o’r boblogaeth ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sy’n aml ar gyrion cymdeithas. Rydym am gynnig cyfle i rywun o’r gymuned hon adrodd ei stori, drwy ba ffordd bynnag sydd fwyaf cyfforddus iddo, boed drwy siarad yn y digwyddiad, neu drwy gyfraniad anhysbys megis recordio fideo neu ddarn o ysgrifennu, celf neu ffotograffiaeth. Rydym yn hapus i drefnu recordiad anhysbys gyda chi, os yw hyn yn fwy cyfleus ichi.
Byddwn yn derbyn ac yn gwerthfawrogi pob cyflwyniad sy’n cael ei arddangos neu ei chwarae yn y digwyddiad. Rydym yn cydnabod y bydd yr holl gyflwyniadau’n cymryd amser ac egni a byddwn yn gwneud iawn am yr ymdrechion hyn gyda thalebau i gyfrannu at eich astudiaethau, boed am brydau ar glud, talebau archfarchnad, nwyddau ysgrifennu neu siop lyfrau. Fel cydnabyddiaeth ffurfiol, bydd cyflwynwyr hefyd yn derbyn tystysgrif gwerthfawrogiad gan BywydCampws, i ategu ceisiadau am swyddi neu fisa. I’r rhai nad ydynt am gyflwyno unrhyw beth, mae croeso ichi ddod i’r digwyddiad, lle byddwn yn dosbarthu talebau bwyd a diod.
Mae croeso ichi gysylltu â mi os oes gennych gwestiynau neu ymholiadau neu bryderon. Gallwch anfon yr holl gyflwyniadau i ffydd.bywydcampws@abertawe.ac.uk.
Student Communications Coordinator Mawrth Mai 25th, 2021
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University