Male student in labMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer myfyrwyr prifysgol ym mis Medi, sy’n cynnwys gwybodaeth am gadw pellter cymdeithasol a’r niferoedd sy’n cael astudio mewn grwpiau. Rydym yn gwybod eich bod am ddeall ystyr hyn i’ch astudiaethau a fydd yn dechrau ym mis Medi.

Mae Prifysgol Abertawe’n croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn ein galluogi i barhau i gynnig rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb o fis Medi, gan ddal ati i flaenoriaethu diogelwch staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn ein holl weithgarwch.

Rydym wrthi’n ystyried manylion y canllawiau a byddwn yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am y trefniadau dysgu ac addysgu pan fo modd. Eich lles a lles y gymuned ehangach yw ein blaenoriaeth o hyd ac mae ein staff wedi bod yn gweithio’n galed i barhau i sicrhau bod ein campysau’n ddiogel i chi. Bydd MyUniSupport yn wasanaeth cymorth pwrpasol ynghylch Covid-19 i’n myfyrwyr i gyd.

Fe’ch anogir i ymgymryd â phrawf llif unffordd cyn i chi ddod i’r brifysgol, ac i ymgymryd â phrofion rheolaidd am y 28 diwrnod cyntaf ar ôl i chi gyrraedd. Os nad ydych wedi cael eich brechu, cewch drefnu brechiad ar unwaith.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gwneud popeth posib i sicrhau y gall cymdeithasau, clybiau chwaraeon a digwyddiadau cymdeithasol ailddechrau’n bersonol, os bydd yr amgylchiadau’n caniatáu hynny. Bydd Undeb y Myfyrwyr a’i swyddogion yn cysylltu â phwyllgorau a myfyrwyr dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn cael cymorth a bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ailgydio yn eu gweithgareddau.

Rydym yn deall na fydd pawb yn gyfforddus â chymryd rhan mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb ar unwaith a byddwn yn cynnig cyfleoedd ac yn annog grwpiau myfyrwyr i gynnal digwyddiadau, ar-lein ac yn bersonol. Mae gweithgareddau allgyrsiol yn rhan hanfodol o brofiad myfyrwyr, ac rydym am i bob myfyriwr allu cymryd rhan ynddynt yn ddiogel ac mewn ffordd sy’n gyfforddus iddynt.

Ein nod, fel bob amser, yw cynnig profiad o’r radd flaenaf i bob myfyriwr, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n campysau hardd.

 

Mercher Mehefin 30th, 2021

Posted In: Negeseuon, Amrywiol

6 Comments

  • Luo Lu says:

    So are overseas students required to arrive in the UK?
    If necessary, please inform us as soon as possible, because the preparation of visa, air ticket, luggage and so on will take time.

    • Tushar Marathe says:

      What will be the teching method face to face or onile for january intake international students? Please someone reply as soon as possible.

      • Student Partnership and Engagement Manager says:

        Hello, you will need to email your School or College for more information as this will vary between programmes. Thank you

  • Jony says:

    Hopefully we can finally get back to studying on campus!

  • Natalie O'Shea says:

    Will all courses be having face to face teaching?

    • Student Partnership and Engagement Manager says:

      Hi Natalie, plans are currently being made with timetabling having reviewed the Welsh Government advice. We’ll be able to release more information on how we hope face to face teaching will look soon, however if you have any specific questions it would be best to contact your College information office. Thank you!

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University