Rydym yn edrych ymlaen at dy groesawu i’r campws cyn bo hir, fel y gelli di fwynhau profiad ehangach y myfyrwyr a phopeth sydd gan Abertawe a’r Brifysgol i’w gynnig.
Rydym yn parhau i gydnabod y gall fod yn anodd i ti gyrraedd Abertawe oherwydd cyfyngiadau teithio neu faterion sy’n ymwneud â Covid. Mae’r newidiadau diweddar yn rheoliadau Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) yn golygu os nad wyt ti’n gallu teithio i’r DU erbyn dechrau’r tymor, y gelli di gofrestru a chymryd rhan yn dy raglen ar-lein ac yna ymuno pan fyddi di’n gallu. Unwaith y byddi di’n cyrraedd, byddi di’n symud i ddysgu ac addysgu neu ymchwil ar y campws. Rhaid i ti gyrraedd erbyn 6 Ebrill 2022 o dan y rheoliadau, ond rydym yn gobeithio’n fawr y byddi di’n gallu ymuno â ni ymhell cyn hynny er mwyn i ti gymryd rhan ym mhopeth sydd gennym i’w gynnig yn y Brifysgol.
Mae nifer fach o raglenni Cemeg a Pheirianneg lle nad yw hi’n bosib astudio ar-lein am fwy nag ychydig wythnosau. Bydd rhaglenni proffesiynol mewn Meddygaeth a Nyrsio’n gofyn i ti fod yma’n bersonol o ddyddiad dechrau’r rhaglen. Cofia hefyd efallai bydd angen i ti gynnwys cyfnod o 10 niwrnod o gwarantin yn dy amserlen cyn i ti ddechrau’n bersonol. Rydym yn dy gynghori i gysylltu â dy Ysgol os wyt yn ansicr a fydd modd i ti ddechrau dy raglen ar-lein neu beidio.
Cwarantin
Fel rwy’n siŵr dy fod yn ymwybodol, cafwyd sawl newid gan Lywodraethau’r DU a Chymru o ran gofynion cwarantin wrth gyrraedd y DU o wledydd a restrir yn Goch, yn Oren ac yn Wyrdd neu wrth deithio drwy’r gwledydd hyn.
Darllena’r wybodaeth yn y dolenni a ddarperir uchod yn ofalus i weld sut mae’r gofynion cwarantin hyn yn effeithio arnat ti ac i weld sut bydd y Brifysgol yn dy gefnogi yn ystod yr amser hwn yma.
Gwna’n siŵr dy fod yn rhoi gwybod i myunisupport@abertawe.ac.uk am dy drefniadau teithio cyn teithio i’r DU. Mae’r tîm MyUniSupport yma i gynnig cymorth, arweiniad a help i ti cyn iti fod dan gwarantin ac yn ystod yr amser hwn.
Os nad wyt ti wedi derbyn dy frechlyn eto, byddi di’n gallu cael un am ddim unwaith y byddi di wedi cofrestru gyda meddyg.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe, cer i’n tudalennau gwe dynodedig.
Edrychwn ymlaen at dy groesawu i Abertawe!
Student Communications Officer Mawrth Awst 24th, 2021
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
Hello
my name is Jintao, my student number is 2003159, and I am studying for a master’s degree in management in January 2021.
I want to know whether a student like me needs to enter the UK compulsorily for the last semester, or whether I can continue to apply for online learning to complete the last semester
Regards
Jintao
Hi Jintao, we have passed yout query to MyUniHub and MyUniSupport who will be able to help you further. They can also be contacted myunisupport@swansea.ac.uk Thank you!
Hello
I am a second year Chemical Engineering Student who is waiting for a EUSS decision and I am trying to make an enrolment. Is there any possibility I can continue my studies online until I receive the decision of the EUSS?
Good morning, if you contact MyUniHub@swansea.ac.uk they will be able to advise you further.
Hello,
Could you advise if students travelling from an amber list country would need to mandatorily self isolate in the University accommodation or they could isolate at a hotel in Swansea ?
Hello Phillip! Thank you for getting in touch. If you contact MyUniSupport a team member will be able to assist you further. Thank you
Hello,
Could you let me know if the university is going to be compensating for the mandatory tests required for students traveling from amber list countries at all?
Hello Haseeb, the University won’t be compensating for mandatory testing. If you have any queries, or require any support you can email MyUniSupport@swansea.ac.uk who will be happy to help you.