Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i’r campws am ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf, fel y gallwch chi fwynhau’r profiad ehangach sydd gan Abertawe a’r Brifysgol i’w gynnig i’n myfyrwyr.

Disgwylir i’r holl fyfyrwyr ddychwelyd i’r campws ym mis Medi er mwyn cyfranogi mewn darpariaeth addysgu ac ymchwil ar y campws. Gwnaed eithriad bach i’n myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt yn gallu teithio i Abertawe. Mae myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt yn gallu teithio i Abertawe yn cael eu cynghori i gyrraedd cyn gynted ag y gallant.

Rydym wedi llunio rhestr gynhwysfawr o’r hyn i’w ddisgwyl yn y flwyddyn academaidd newydd a chyngor pwysig i fod yn ymwybodol ohono o ran Covid 19 a mesurau iechyd a diogelwch. Rydym yn ychwanegu at ein Cwestiynau Cyffredin Myfyrwyr drwy’r amser felly ewch i’n tudalennau gwe i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Eich diogelwch a’ch lles yw ein prif flaenoriaeth. Sylwer y bydd canllawiau gwasanaethau’r Brifysgol yn amrywio o ganlyniad i fesurau iechyd a diogelwch gwahanol sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru.

Dysgu ac Addysgu

Yn unol â fframwaith rheoli heintiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch, rydym yn bwriadu cyflwyno ymagwedd a reolir at ddysgu ac addysgu ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd.  Bydd darlithoedd mawr yn cael eu cyflwyno ar-lein, serch hynny bydd sesiynau fel rhai ymarferol, seminarau a gwaith labordy’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb. Bydd amserlenni’n cael eu rhyddhau yr wythnos sy’n dechrau 13 Medi.

Rydym wedi gwrando ar eich adborth o ran mentrau digidol newydd a gyflwynwyd ers y pandemig a byddwn yn cadw meysydd newydd o arfer da er mwyn gwella’r profiad dysgu i’n myfyrwyr.

Myfyrwyr sy’n Ymchwilwyr

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein holl fyfyrwyr ymchwil yn ôl i’r campws i gyfranoogi yn eu gwaith ymchwil. Caniateir ymgysylltu o bell ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy’n wynebu oedi wrth deithio o ganlyniad i’r pandemig a phan fydd y rhaglen ymchwil yn caniatáu hyn. Disgwylir i ymchwilwyr rhyngwladol gyrraedd Abertawe cyn gynted â phosib. Rydym yn cynghori myfyrwyr sy’n wynebu oedi wrth deithio i drafod yr opsiwn o gynnal eu gwaith ymchwil yn ystod y cyfnod hwn o oedi drwy ymgysylltu o bell â’u goruchwyliwr neu Gyfadran/Ysgol.

Ystyriaethau Iechyd a Diogelwch

Rydym ar lefel rhybudd 0 ar hyn o bryd ar gyfer Covid 19, ond mae rhai rheoliadau ar waith o hyd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu’r gymuned. Wrth gofrestru, bydd yn rhaid i’r holl fyfyrwyr gytuno i lynu wrth ganllawiau iechyd a diogelwch Covid-19 a Siarter y Myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â’r rhain cyn ymuno â ni ar y campws.

Brechiadau

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru’n cynnig brechiadau Covid-19 i bobl 18-30 oed ar hyn o bryd. Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol, byddant yn cysylltu â chi gyda manylion eich apwyntiad brechu.  Serch hynny, gallwch gael brechiad drwy gysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol os nad ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol eto.

Rydym yn eich annog i gael brechlyn fel y ffordd orau o amddiffyn yn erbyn Covid-19. Mae rhagor o wybodaeth benodol i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol sefydliadau addysg uwch ar gael yma. E-bostiwch myunisupport@abertawe.ac.uk os oes gennych gwestiynau neu bryderon sy’n ymwneud â Covid-19.

Profi cyn teithio

Rydym yn gofyn i bob myfyriwr gymryd rhan mewn profion COVID-19 asymptomatig pan fydd yn dychwelyd i’r brifysgol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n asymptomatig ac a allai ledaenu’r feirws fod yn rhaid iddynt hunanynysu.  Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd rhan yn y profion asymptomatig i helpu i gadw cymuned eich prifysgol yn ddiogel a helpu i gadw gweithgarwch yn y cnawd yn y brifysgol yn ddiogel ac yn agored.

  • Ceisiwch gynllunio ymlaen llaw ac archebu eich profion cyn cyrraedd.
  • Dylech archebu dau brawf, tri diwrnod ar wahân.
  • Ar ôl y ddau brawf cychwynnol, bydd angen i chi archebu profion ddwywaith yr wythnos am y 28 diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn helpu i reoli lledaeniad y feirws ac yn helpu i atal a rheoli unrhyw glystyrau sy’n gallu codi mewn llety myfyrwyr pan fyddwch yn ail-ymuno â’ch aelwyd yn ystod y tymor.

Mae’r profion ar gael yn rhad ac am ddim.

Gallwch archebu pecynnau profi gartref llif unffordd ar GOV.UK. Gallwch archebu 1 pecyn profi cartref (7 prawf) ar y tro. Mae’n cymryd 1 i 2 diwrnod i’w danfon.

Gallwch hefyd gasglu’r pecynnau profion. Dod o hyd i’ch man casglu agosaf a’r amseroedd agor (ar nhs.uk).

Gallwch gasglu profion COVID-19 cyflym o’r rhan fwyaf o fferyllfeydd. Darganfyddwch a oes fferyllfa yn eich ardal chi yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Beth yw safbwynt y Brifysgol ar wisgo gorchudd wyneb?

Fel mesur rhesymol, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn y sefyllfaoedd canlynol oni bai eich bod wedi’ch eithrio;

  • Ym mhob rhan Prifysgol y gall y cyhoedd fynd iddynt gan gynnwys: cynteddau, derbynfeydd, coridorau, lifftiau, grisiau, cyfleusterau, siopau a llyfrgelloedd.
  • Pan na ellir cadw pellter cymdeithasol o 2m (oni bai ei fod wedi’i nodi mewn asesiad risg y byddai hyn yn anniogel).
  • Wrth symud o amgylch gofod fel swyddfa cynllun agored, amgylchedd dysgu ac addysgu neu leoliad arlwyo.
  • Lle y nodir ar asesiad risg fel mesur rheoli priodol.
  • Pan ofynnir iddynt, lle mae myfyrwyr neu staff sy’n agored iawn i niwed yn glinigol neu’r rhai sydd mewn mwy o berygl o COVID-19, gan gynnwys y rhai a oedd yn gwarchod gynt.

Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn parhau i wisgo gorchudd wyneb yn y sefyllfaoedd canlynol;

  • Pan fyddwch yn eistedd ac yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn swyddfa agored.
  • Pan fyddwch yn eistedd ac yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn arholiad.
  • Pan fyddwch yn eistedd ac yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn amgylchedd dysgu ac addysgu, fel darlithfeydd, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd cyfrifiadurol.
  • Pan fyddwch yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn labordy neu weithdy ymchwil, lle mae asesiadau risg y gweithgaredd yn caniatáu.
  • Wrth weithio fel rhan o grŵp cyswllt diffiniedig mewn amgylchedd dysgu ac addysgu. Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr ymbellhau’n gymdeithasol o fewn grwpiau cyswllt diffiniedig.
  • Wrth weithio fel rhan o grŵp cyswllt diffiniedig mewn labordai addysgu, lleoliadau clinigol a gweithdai, lle mae asesiadau risg gweithgarwch yn caniatáu hynny. Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr ymbellhau’n gymdeithasol o fewn grwpiau cyswllt diffiniedig.

Os oes gan fyfyriwr neu aelod o staff gyflwr meddygol neu anabledd ac os yw wedi’i eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb neu fasg, gallant ddewis gwisgo lanyard blodau haul, cario cerdyn eithrio neu lawrlwytho eithriad digidol i ffôn symudol,  a pheidio â phryderu y bydd pobl yn eu herio am beidio â gwisgo gorchudd wyneb.

Cwarantin

Fel rwy’n siŵr dy fod yn ymwybodol, cafwyd sawl newid gan Lywodraethau’r DU a Chymru o ran gofynion cwarantin wrth gyrraedd y DU o wledydd a restrir yn Goch, yn Oren ac yn Wyrdd neu wrth deithio drwy’r gwledydd hyn.

Darllena’r wybodaeth yn y dolenni a ddarperir uchod yn ofalus i weld sut mae’r gofynion cwarantin hyn yn effeithio arnat ti ac i weld sut bydd y Brifysgol yn dy gefnogi yn ystod yr amser hwn yma.

Gwna’n siŵr dy fod yn rhoi gwybod i myunisupport@abertawe.ac.uk am dy drefniadau teithio cyn teithio i’r DU. Mae’r tîm MyUniSupport yma i gynnig cymorth, arweiniad a help i ti cyn iti fod dan gwarantin ac yn ystod yr amser hwn.

Cyngor cwarantin i fyfyrwyr ‘cartref’

Dros yr haf, cyn i chi gyrraedd Abertawe, os ydych yn bwriadu teithio i wlad sy’n golygu y bydd yn rhaid i chi dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi dreulio’r cyfnod cwarantin gofynnol mewn gwesty cwarantin ar y rhestr goch os ydych yn teithio o wlad sydd wedi’i rhestru’n goch, neu yn eich cartref eich hun os ydych yn teithio o wlad sydd wedi’i rhestru’n oren ac na ddylech deithio i Abertawe tan ar ôl y cyfnod hwnnw.

Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i myunisupport@abertawe.ac.uk os na allwch deithio i Abertawe am resymau sy’n ymwneud â Covid-19.

Lles Myfyrwyr

Mae nifer o wasanaethau cymorth ar gael i chi ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym eisiau eich cefnogi chi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau a’ch bywyd personol pan fyddwch yma ac ar ôl i chi raddio.

Rydym yn cydnabod bod Covid-19 wedi creu ansicrwydd a newid sylweddol a allai effeithio ar eich iechyd meddwl a’ch lles. I’ch cefnogi drwy’r cyfnod heriol hwn, rydym wedi casglu ynghyd amrywiaeth o adnoddau lles, gan gynnwys erthyglau, cyrsiau, fideos a phodlediadau ar-lein.

Profiad y Myfyrwyr a chael Mynediad at Wasanaethau a Chyfleusterau

Er y bydd rhywfaint o ddysgu ar-lein, byddwn yn sicrhau bod cyfle i fyfyrwyr gwrdd yn bersonol, rhyngweithio â’u cyd-fyfyrwyr a staff academaidd a gwneud ffrindiau newydd. Rydym yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno profiad amrywiol a diddorol i’n myfyrwyr, gyda chyfleoedd am ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn ogystal â gweithgareddau ar-lein. Bydd y cymdeithasau a’r clybiau chwaraeon hefyd yn ailddechrau eu sesiynau, cyfle cyffrous arall i fyfyrwyr gwrdd â’i gilydd a chymryd rhan.

Gwasanaethau Arlwyo

Ydych chi’n chwlio am rywle i fwynhau paned neu i brynu brechdan? Ewch i Callaghan’s ar Gampws Parc Singleton neu Y Coleg ar Gampws y Bae, mae’r ddau le ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, Perffaith ar gyfer ymlacio ar ôl darlith

Eisiau pryd o fwyd poeth? Ewch i Blas 2.0, Lefel 1 yn Nhŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton lle maent yn cynnig ystod o brydau bwyd gan gynnwys opsiynau brecwast!

Ar gael i’w gasglu ar y ddau gampws; Singleton (Y Ffreutur, Tŷ Fulton) a Champws y Bae (The Core). Gwasanaeth cludo hefyd ar gael ar gampws. Mae gan ein bwydlen ar-lein ddetholiad eang o brydau blasus gan gynnig rhywbeth at bob dant. Gallwch archebu a thalu ymlaen llaw, dewis eich amser casglu a bwyta a mwynhau eich bwyd! Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy’r wythnos o’r Ffreutur yn Nhŷ Fulton ac o The Core ar Gampws y Bae.

Cadwch lygad  ar ein tudalennau gwe ar gyfer yr holl amseroedd agor a chynigion diweddaraf.

Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr

Rydyn ni’n edrych ymlaen at dy groesawu eto i siopau Undeb y Myfyrwyr ar y campws! Mae Costcutter, dy archfarchnad ar Gampws Singleton ar agor ar gyfer cynigion prydau bwyd, deunydd ysgrifennu, nwyddau cartref. Beth bynnag sydd ei angen arnat ti, mae gennym ni.

Gallet ti ddod o hyd i fyrbrydau a danteithion llysieuol, fegan, di-glwten a di-laeth yn Root. Byddwn hefyd yn cyflwyno opsiynau bwyd poeth newydd yn barod ar gyfer y prynhawniau hydref hynny yn y llyfrgell. Bydd Root Zero, sef siop ddiwastraff gyntaf mewn prifysgol yng Nghymru, yn ôl gyda nodweddion newydd, cadwa dy lygaid allan ar Instagram Root Zero am newyddion. Bydd y ddau yn ailagor eu drysau ar Fedi 20fed.

Mae Fulton Outfitters, siop ddillad swyddogol Prifysgol Abertawe sy’n gwerthu ystod o nwyddau o ansawdd uchel, wedi’u hysbrydoli gan fyfyrwyr, ar agor i dy alluogi i edrych fel myfyriwr Abertawe. Galwa heibio i weld y dillad neu cer ar-lein i gael cipolwg yma.

Dilyna ni ar Facebook, TikTok, ac Instagram i weld yr holl ddiweddariadau!

Chwaraeon

Deallwn fod chwaraeon yn rhan enfawr o’ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe ac rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau y gallwch chi gymryd rhan ym mhob un o weithgareddau Chwaraeon Abertawe yn ddiogel gan gynnwys Chwaraeon Myfyrwyr, defnyddio ein cyfleusterau ym Parc Chwaraeon Bae Abertawe, yn ogystal â chadw’n ffit ac yn iach ar y campws yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22.

Rydym yn falch o ddweud bod tymor cystadleuol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) yn dechrau ddydd Mercher 29 Medi!

Gallwch chi ddysgu mwy ar dudalennau Chwaraeon Abertawe My Uni a byddwn ni’n anfon diweddariadau rheolaidd atoch chi ynghylch datblygiadau chwaraeon gan Chwaraeon Myfyrwyr. Mae gwybodaeth am aelodaethau campfa a chyfleusterau Chwaraeon Abertawe hefyd ar gael yma yn ogystal â chynigion arbennig er mwyn eich croesawu chi i Abertawe.

Cofiwch ddilyn @SportSwansea a @SwanseaBaySportsPark ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf hefyd.

Gwasanaethau Llyfrgell

Oriau agor presennol Llyfrgelloedd Campws y Bae a Singleton ar gyfer mannau astudio wedi’u neilltuo a’r gwasanaeth cais a chasglu yw fel a ganlyn:

Dydd Llun – Dydd Iau:

Oriau agor adeilad y llyfrgell: 08:00 – 22:00
Oriau agor y Ddesg Wybodaeth: 09:00 – 20:00

Dydd Gwener:

Oriau agor adeilad y llyfrgell: 08:00 – 17:00
Oriau agor y Ddesg Wybodaeth: 09:00 – 17:00

Dydd Sadwrn:

Oriau agor adeilad y llyfrgell: 13:00 – 22:00
Oriau agor y Ddesg Wybodaeth: 13:00 – 17:00

Dydd Sul: 

Oriau agor adeilad y llyfrgell: 13:00 – 22:00
Oriau agor y Ddesg Wybodaeth: 13:00 – 20:00

Ond byddwn yn dychwelyd i agor 24 awr tua dechrau’r tymor. Mae’r union ddyddiad i’w gadarnhau, felly cadwch lygad ar ein tudalennau gwe a Twitter Gwasanaethau Llyfrgell ac Oriau agor (@SwanseaUniLib) i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cais a Chasglu

Gwnaeth Covid gyflymu ein proses o fabwysiadu’r gwasanaeth hwn, lle gall benthycwyr geisio eitem o’r rhestrau yn iFind, bydd yn cael ei chadw ar silff hunanfenthyca yn yr un lleoliad, ac yna bydd hysbysiad pan fydd yn barod i’w chasglu. Mae hwn wedi bod yn wasanaeth poblogaidd ac effeithiol iawn a byddwn ni’n ei gadw fel un o’r opsiynau arferol yn ein gwasanaeth ceisiadau. Fel ymateb i geisiadau defnyddwyr y Llyfrgell, rydym ni hefyd wedi codi uchafswm y ceisiadau y gallwch ei cyflwyno ar yr un pryd o bump i ddeg.

Pori’r silffoedd ac argraffu

Bydd defnyddwyr y llyfrgell yn gallu cael mynediad at lyfrau a’u benthyca (heb drefnu man astudio) ac yn gallu defnyddio’r ardaloedd argraffu yn Llyfrgelloedd y Bae a Singleton o 27 Medi.

Neilltuo Lleoedd Astudio

Ar hyn o bryd, mae angen i chi barhau i neilltuo mannau astudio. Mae manylion llawn argaeledd, terfynau neilltuo lle a dolen i’r dudalen neilltuo lle ar gael ar y dudalen Neilltuo lle astudio yn y llyfrgell. Serch hynny, mae neilltuo mannau astudio a therfynau ar fenthyca’n cael eu hadolygu’n gyson a’n nod yw agor mannau yn y llyfrgell a dileu’r gofyniad i neilltuo lle cyn gynted ag y gallwn. Unwaith eto, cadwch lygad ar ein tudalennau gwe a Twitter Gwasanaethau Llyfrgell ac oriau agor (@SwanseaUniLib) i gael y newyddion diweddaraf.

Teithio

Mae gwasanaethau bws yn dechrau dychwelyd i’r arfer, ond cofiwch, rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar gludiant cyhoeddus yng Nghymru, ac mae ystod o fesurau diogelwch ar waith i’ch cadw chi, eich cyd-deithwyr a’r gyrwyr bws yn ddiogel.

Mae gwasanaethau campws i gampws First Cymru yn addas i fyfyrwyr, gyda chysylltiadau uniongyrchol rhwng Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan, Campws Parc Singleton, Canol y Ddinas a Champws y Bae.

Mae gwybodaeth am eich opsiynau tocyn a’r gostyngiadau y gallwch eu cael gyda Fy Ngherdyn Teithio ar gael ar ein tudalennau gwe teithio, ynghyd â chyngor am gynllunio teithio, lawrlwytho Ap First Cymru a lle i gael amserlenni amser tymor y gwasanaeth o gampws i gampws sy’n dechrau ar 19 Medi.

Byddwn yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i chi drwy e-bost a thudalennau’n cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi’r diweddaraf i chi gan Brifysgol Abertawe ac unrhyw newidiadau i arweiniad diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Llun Medi 13th, 2021

Posted In: Negeseuon, Llesiant

2 Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University