Rydym yn gofyn i bob myfyriwr gymryd rhan mewn profion COVID-19 asymptomatig pan fydd yn dychwelyd i’r brifysgol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n asymptomatig ac a allai ledaenu’r feirws fod yn rhaid iddynt hunanynysu.  Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd rhan yn y profion asymptomatig i helpu i gadw cymuned eich prifysgol yn ddiogel a helpu i gadw gweithgarwch yn y cnawd yn y brifysgol yn ddiogel ac yn agored.

Mae’r profion ar gael yn rhad ac am ddim.

Gallwch archebu pecynnau profi gartref llif unffordd ar GOV.UK. Gallwch archebu 1 pecyn profi cartref (7 prawf) ar y tro. Mae’n cymryd 1 i 2 diwrnod i’w danfon.

Gallwch hefyd gasglu’r pecynnau profion. Dod o hyd i’ch man casglu agosaf a’r amseroedd agor (ar nhs.uk).

Gallwch gasglu profion COVID-19 cyflym o’r rhan fwyaf o fferyllfeydd. Darganfyddwch a oes fferyllfa yn eich ardal chi yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Mae pecynnau profi gartref bellach ar gael i’w casglu ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton. Gallwch alw heibio heb apwyntiad.

  • Creu Taliesin ar Gampws Singleton o 9.30am i 3pm, Dydd Llun- Dydd Gwener (o 20 Medi)
  • The Core ar Gampws y Bae o 9.30am i 3pm, Dydd Llun- Dydd Gwener (o 20 Medi)

Er mwyn i ni eich cefnogi chi, rhowch wybod i ni os ydych yn cael prawf cadarnhaol am Covid-19 os ydych yn Abertawe neu’n rhywle arall. Gallwch e-bostio myunisupport@abertawe.ac.uk i roi gwybod i ni am ganlyniad cadarnhaol.

 

Gwener Medi 17th, 2021

Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Llesiant

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University