Cofiwch- Mae’n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb yn y mwyafrif o fannau dan do cyhoeddus yng Nghymru.
Beth yw safbwynt y Brifysgol ar wisgo gorchudd wyneb?
Fel mesur rhesymol, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn y sefyllfaoedd canlynol oni bai eich bod wedi’ch eithrio;
- Ym mhob rhan Prifysgol y gall y cyhoedd fynd iddynt gan gynnwys: cynteddau, derbynfeydd, coridorau, lifftiau, grisiau, cyfleusterau, siopau a llyfrgelloedd.
- Pan na ellir cadw pellter cymdeithasol o 2m (oni bai ei fod wedi’i nodi mewn asesiad risg y byddai hyn yn anniogel).
- Wrth symud o amgylch gofod fel swyddfa cynllun agored, amgylchedd dysgu ac addysgu neu leoliad arlwyo.
- Lle y nodir ar asesiad risg fel mesur rheoli priodol.
- Pan ofynnir iddynt, lle mae myfyrwyr neu staff sy’n agored iawn i niwed yn glinigol neu’r rhai sydd mewn mwy o berygl o COVID-19, gan gynnwys y rhai a oedd yn gwarchod gynt.
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn parhau i wisgo gorchudd wyneb yn y sefyllfaoedd canlynol;
- Pan fyddwch yn eistedd ac yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn swyddfa agored.
- Pan fyddwch yn eistedd ac yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn arholiad.
- Pan fyddwch yn eistedd ac yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn amgylchedd dysgu ac addysgu, fel darlithfeydd, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd cyfrifiadurol.
- Pan fyddwch yn ymbellhau’n gymdeithasol mewn labordy neu weithdy ymchwil, lle mae asesiadau risg y gweithgaredd yn caniatáu.
- Wrth weithio fel rhan o grŵp cyswllt diffiniedig mewn amgylchedd dysgu ac addysgu. Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr ymbellhau’n gymdeithasol o fewn grwpiau cyswllt diffiniedig.
- Wrth weithio fel rhan o grŵp cyswllt diffiniedig mewn labordai addysgu, lleoliadau clinigol a gweithdai, lle mae asesiadau risg gweithgarwch yn caniatáu hynny. Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr ymbellhau’n gymdeithasol o fewn grwpiau cyswllt diffiniedig.
Os oes gan fyfyriwr neu aelod o staff gyflwr meddygol neu anabledd ac os yw wedi’i eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb neu fasg, gallant ddewis gwisgo lanyard blodau haul, cario cerdyn eithrio neu lawrlwytho eithriad digidol i ffôn symudol, a pheidio â phryderu y bydd pobl yn eu herio am beidio â gwisgo gorchudd wyneb.
Rydym yn ychwanegu at ein Cwestiynau Cyffredin Myfyrwyr drwy’r amser felly ewch i’n tudalennau gwe i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Student Partnership and Engagement Manager Llun Medi 20th, 2021
Posted In:
Negeseuon, Llesiant