Cyfle i weithio ar Ymgynghori ar Reoli, Ymgynghori ar Risg neu Ymgynghori Ariannol.
Cyfle unwaith mewn bywyd: Gweithio i un o gyflogwyr gorau’r byd.
Erioed wedi eisiau gweithio dramor? Yn barod i roi hwb i dy yrfa? Bydd y cyfle gwaith rhyngwladol hwn gyda Deloitte y Swistir yn lansio dy yrfa ar gyfer dyfodol disglair! Gelli di ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd dynamig a chyffrous a fydd yn caniatáu i ti gael profiad gwaith gydag un o gyflogwyr mwyaf deniadol y byd.
Ymuna â rhwydwaith sy’n tyfu o gyn-fyfyrwyr Abertawe sy’n gweithio i Deloitte y Swistir am flwyddyn o gyfleoedd datblygu a phrosiectau effeithiol gyda chleientiaid byd-eang. Ar ôl cwblhau hyfforddeiaeth lwyddiannus, rydym yn gobeithio cynnig cytundeb amser llawn, fel rydym wedi’i wneud gyda llawer o gyn-hyfforddeion!
Eisiau rhagor o wybodaeth? Darllena ragor isod neu gwylia’r fideo yma.
D.S: Mae’r rhaglen hon wedi ehangu’n ddiweddar o Brifysgol Caerdydd i Brifysgol Abertawe hefyd!
Meysydd gwaith:
Gwybodaeth Allweddol:
Camau nesaf:
Os hoffet ti gael cyngor neu arweiniad wrth gyflwyno cais, mae pob croeso i ti gysylltu ag arweinydd ymchwil dy ysgol. Os hoffet ti wybod mwy am Deloitte y Swistir, cer i Gyrfaoedd Deloitte.
Ymuna â’r Sesiwn gyda’r Cyflogwr lle byddi di’n cael yr atebion i dy holl gwestiynau pwysig
Dyddiad: 14.10.21
Amser: 17:30 – 19:00
Ymuna â’r alwad Zoom i ganfod mwy am:
Bydd cynrychiolwyr o Ymgynghori, Ymgynghori Ariannol ac Ymgynghori ar Risg yn rhoi trosolwg o’r rhaglen ac yn cynnig cymorth ac awgrymiadau wrth gyflwyno cais. Hefyd byddi di’n cael cyfle i ofyn cwestiynau iddynt ynghyd â’r cyfle i siarad â chyn-hyfforddeion.
Rydym ni ar Facebook, Instagram, LinkedIn a Twitter
Ysgrifennwyd y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio gwybodaeth gyffredinol felly rydym yn argymell dy fod yn cael cyngor proffesiynol cyn gweithredu neu beidio â gweithredu ar gynnwys y cyhoeddiad hwn. Nid yw Deloitte AG yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a achosir i unrhyw unigolyn o ganlyniad i weithredu neu beidio â gweithredu o ganlyniad i unrhyw ddeunydd a geir yn y cyhoeddiad hwn.
Mae Deloitte AF yn aelod cyswllt o Deloitte NSE LLP, cwmni sy’n aelod o Deloitte Touche Tohmatsu Limited, cwmni preifat cyfyngedig drwy warant yn y DU (“DTTL”). Mae DTTL a phob un o’i aelod-gwmnïau’n endidau annibynnol ac ar wahân o safbwynt cyfreithiol. Nid yw DTTL a Deloitte NSE LLP yn darparu gwasanaethau i gleientiaid. Ragor o wybodaeth am ein rhwydwaith byd-eang o aelod-gwmnïau.
Cwmni archwilio yw Deloitte AG ac mae’n cael ei gydnabod a’i oruchwylio gan yr Awdurdod Goruchwylio Archwilio Ffederal (FAOA) ac Awdurdod Goruchwylio Marchnad Ariannol y Swistir (FINMA).
© 2021 Deloitte AG. Cedwir pob hawl.
Student Communications Officer Mawrth Hydref 12th, 2021
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, [:en]Swansea Employability Academy[:cy]Academi Cyflogadwyedd Abertawe[:]
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University