Ym Mhrifysgol Abertawe, mae diogelu ein hamgylchedd a sicrhau llesiant cymuned ein campysau yn bwysig iawn inni. Dyna pam rydym yn lansio ffordd newydd sbon y gallwch gyfrannu at ein hymdrechion i fod yn gynaliadwy a chael eich gwobrwyo am yr holl bethau da a wnewch. Daw hyn ar adeg bwysig yn hanes ein hamgylchedd ac mae’n cyd-daro â COP26 yn Glasgow, sef y gynhadledd newid hinsawdd fwyaf drwy’r byd.
Beth yw SWell?
Ystyr SWell yw Sustainability and Wellbeing/Cynaliadwyedd a Llesiant. Rhaglen ddigidol yw hi, ac mae ar agor i holl staff a myfyrwyr y brifysgol. Trwy gyfrwng yr ap a phlatfform y we byddwch yn ennill ‘Pwyntiau Gwyrdd’ am wneud pethau bach beunyddiol i leihau eich ôl troed carbon a gofalu am eich lles corfforol a meddyliol, gan gefnogi Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd ein Prifysgol yr un pryd.
Bob mis, bydd y 10 myfyriwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o bwyntiau’n cael taleb o £10, a bydd modd defnyddio’r talebau hyn yn Undeb y Myfyrwyr, Root, M&S, National Book Tokens ac fel talebau sinema. Hefyd, ar ddiwedd y flwyddyn bydd y tîm buddugol yn cael rhodd o £500 i’w rhoi i elusen.
Dewch i gyfarfod â’r tîm!
Bydd rhaglen SWell yn cael ei lansio ar 1 Tachwedd. Cewch ragor o wybodaeth yn ein gweminar a’n digwyddiad byw, a bydd talebau o £5 ar gyfer Root, Root Zero ac Undeb y Myfyrwyr yn cael eu rhoi i’r 500 myfyriwr cyntaf a fydd yn cofrestru ar y rhaglen (gellir casglu’r talebau hyn o’n stondinau ar y campws, manylion isod).
Bydd y weminar yn cael ei chynnal am 12pm ar 2 Tachwedd, a chewch gyfle i ddysgu rhagor am y rhaglen, clywed gan y tîm cynaliadwyedd a gofyn eich cwestiynau eich hunain, yn ogystal â chael cyfle i weld sut mae’r cwbl yn gweithio. Cofrestrwch ar gyfer y weminar nawr ar: https://event.webinarjam.com/register/121/2okqri8m
Hefyd, byddwn yn cynnal digwyddiad lansio ar gampysau, er mwyn ichi allu trafod SWell â’r tîm cynaliadwyedd yn y cnawd. Gallwch ddod o hyd i’r tîm yn y lleoedd canlynol:
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o’r digwyddiadau ac at gael dweud mwy wrthych am ein rhaglen newydd, gyffrous!
Tîm Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Hydref 29th, 2021
Posted In: Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Sustainability
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University