Cliciwch yma am wybodaeth bwysig am ofynion mynediad Covid-19 a mesurau diogelwch ar gyfer y Gyngres Gradd a Dyfarniadau Gaeaf a gynhelir rhwng 7 a 9 Rhagfyr 2021. Mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â’r gweithdrefnau a’r gofynion os ydych yn mynychu’r digwyddiad.
I gael mynediad, bydd angen i chi ddangos eich statws COVID-19 drwy ddarparu naill ai:
Yn ogystal, rydym yn argymell eich bod yn cymryd prawf llif ochrol ddim mwy na 48 awr cyn mynychu fel mesur rhagofalus. Gellir casglu pecynnau prawf llif ochrol o:
Campws Singleton – Derbynfa Fulton o 9.30am i 1.30pm a derbynfeydd ILS1, Adeilad Wallace, y Techniwm Digidol ac Adeilad Keir Hardie
Campws y Bae – Derbynfeydd Adeilad Canolog Peirianneg, yr Ysgol Reolaeth, y Coleg ac Undeb y Myfyrwyr yn Y Twyni.
Gallwch hefyd gael profion am ddim gan fferyllfeydd lleol neu gael rhagor o wybodaeth ar wefan y GIG
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymgynghori â’r wybodaeth a’r Cwestiynau Cyffredin am Covid-19, cysylltwch â’r Swyddfa Raddio drwy e-bostio: graduation@swansea.ac.uk
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y seremonïau.
Y Tîm Graddio
Student Communications Coordinator Iau Rhagfyr 2nd, 2021
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University