Yn ystod cyfnod yr arholiadau, o 5 i 21 Ionawr 2022, bydd bysus arholiadau arbennig am ddim yn casglu myfyrwyr o Gampws y Bae (y cilfannau bws gyferbyn ag adeilad y Ffowndri Gyfrifiadol) ac yn eu gollwng ar Gampws Singleton/yn y Ganolfan Chwaraeon.
Casglu
Er mwyn sicrhau y bydd digon o amser i’ch cludo i leoliad eich arholiadau, bydd y bysus yn casglu myfyrwyr o Gampws y Bae fel a ganlyn:
Ychwanegir y gwasanaeth bws am ddim at y gwasanaethau bws arferol. Dylai unrhyw un sy’n colli’r gwasanaeth am ddim ddefnyddio gwasanaethau 8, 9 neu 10 First Cymru, ond bydd angen prynu tocyn dydd/tocyn sengl i fyfyrwyr neu ddangos tocyn bws. Ceir rhagor o wybodaeth am wasanaethau First Cymru ar-lein yma.
Teithiau yn ôl i Gampws y Bae
Bydd teithio yn ôl o Gampws Singleton a’r Ganolfan Chwaraeon ar gael ar ôl yr arholiadau fel a ganlyn:
Rhagor o Gyngor ac Arweiniad ynghylch Teithio
Student Communications Coordinator Gwener Rhagfyr 17th, 2021
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University