Two students walking around wearing masksMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau presennol ar Nghymru yn sgîl y coronafeirws.

O Ddydd San Steffan ymlaen, bydd y mesurau lefel rhybudd 2 yn cynnwys:

  • Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle, pan fo hynny’n rhesymol.
  • Bydd y rheol chwech o bobl mewn grym pan fydd pobl yn ymgynnull mewn lleoliadau a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
  • Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.
  • Bydd yna eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan.

Gallwch ddarllen diweddariad llawn Llywodraeth Cymru yma.

Cymerwch ofal ac arhoswch yn ddiogel.

Mercher Rhagfyr 22nd, 2021

Posted In: Negeseuon, Llesiant

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University