Blwyddyn Newydd Dda a chroeso cynnes i fyfyrwyr newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Abertawe.
I ddechrau’r flwyddyn newydd, roeddem am rannu cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am deithio â chi.
Mae’r gwasanaethau bysus 24 awr yn ôl!
Mae amserlenni a mwy o wybodaeth ar gael yma.
Mae gwybodaeth am docynnau bws ar gael ar ein tudalennau teithio yma.
Fy Ngherdyn Teithio
Os ydych rhwng 16 a 21 oed, gallwch gyflwyno cais am Fy Ngherdyn Teithio am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n gerdyn disgownt i’w ddefnyddio ar yr holl wasanaethau bws lleol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau o Gampws i Gampws First Cymru. Mae’n hawdd cyflwyno cais, mae’r manylion ar gael yma.
Bysus Arholiadau o Gampws y Bae
Mae gwybodaeth am deithio i arholiadau ar gael yma.
Mae aelodaeth am ddim i hurio Beiciau Santander i’r holl fyfyrwyr nes mis Medi 2022. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Gall myfyrwyr sy’n beicio i’r campws ac oddi yno gasglu goleuadau a chloeon am ddim yn y lleoliadau canlynol:
Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalennau gwe neu e-bostiwch y Swyddog Teithio Cynaliadwy a fydd yn falch o’ch helpu: J.cornelius@abertawe.ac.uk
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Ionawr 7th, 2022
Posted In: Newyddion Campws, Amrywiol, Travel
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University