Fel y gwyddoch, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros y 18 mis diwethaf er mwyn cadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig; roedd hyn yn cynnwys gohirio seremonïau graddio 2020 a 2021 nes ei bod hi’n ddiogel i aildrefnu, yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru. Rydym wedi rhoi addewid i chi i aildrefnu’r seremonïau hyn er mwyn rhoi’r cyfle i chi fynychu seremonïau fel y gallwch ddathlu eich holl waith caled a’ch cyflawniadau gyda’ch cyfoedion, eich teulu a’ch ffrindiau.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y cynhelir ein seremonïau Dosbarth 2020 a aildrefnwyd rhwng dydd Llun 4 a dydd Iau 7 Ebrill 2022 yn Arena newydd Abertawe, sydd drws nesaf i Farina Abertawe a’r traeth.
Byddwn yn cyhoeddi’r amserlen lawn ar gyfer y seremonïau cyn bo hir a byddwn yn e-bostio gwahoddiad atoch i gofrestru eich presenoldeb ar gyfer eich seremoni cyn diwedd mis Ionawr 2022.
Mae ein seremonïau Dosbarth 2021 wedi cael eu haildrefnu a chânt eu cynnal yn Arena newydd Abertawe ym mis Gorffennaf 2022.
Byddwn yn cyhoeddi’r union ddyddiadau a’r amserlen lawn o seremonïau yn y dyfodol a byddwch yn derbyn gwahoddiad drwy e-bost i gadarnhau eich presenoldeb yn eich seremoni.
Yn y cyfamser, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar dudalennau gwe graddio’r Brifysgol.
Sylwer bod ein seremonïau graddio’n amodol ar gyfyngiadau Llywodraeth Cymru a fydd ar waith bryd hynny. Am y rheswm hwnnw, argymhellwn eich bod yn ystyried hyn os bydd angen i chi drefnu hediadau a/neu westy. Os bydd y coronafeirws, neu unrhyw amgylchiadau annisgwyl eraill, yn cyfaddawdu ar ddiogelwch ein graddedigion a’u gwesteion yn y seremonïau, byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n ofalus, yn dilyn cyngor gan yr awdurdodau amrywiol ac yn cyfleu ein cynlluniau i chi cyn gynted â phosib. Byddwn yn eich hysbysu o’r mesurau diogelwch ar gyfer y seremonïau yn agosach at y digwyddiad gan y bydd y rhain yn adlewyrchu arweiniad Llywodraeth Cymru bryd hynny.
Sylwer os bydd y seremonïau graddio’n cael eu canslo neu eu gohirio, neu fod y seremonïau’n cael eu haildrefnu (i gynnwys dyddiad, amser a/neu leoliad) oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golled uniongyrchol neu fel arall a geir gan raddedigion neu eu gwesteion.
Rydym yn edrych ymlaen at rannu eich diwrnod â chi.
Student Communications Officer Mercher Ionawr 12th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
Hi how many tickets will each graduate be able to have for guests for the Swansea arena ceremony
Hi Rachel, students are usually issued with tickets for two guests. More information will be emailed to eligible graduates by the end of the month for booking and ticket allocation once Covid guidelines have been reviewed on venue capacity. Thank you!
I have not received my graduation invite today to book tickets etc. I am due to graduate July
Hello Louise! We shall look into this and will contact you directly via your student email address. Thank you