Ar hyn o bryd, mae llawer o’n myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiadau, ac mae nifer cyfyngedig yn sefyll arholiadau ysgrifenedig sydd heb eu gweld yn bersonol mewn lleoliadau arholiad. Mae asesiadau a gynhelir yn bersonol wedi cael eu hasesu fel gofyniad addysgegol gan Ysgolion. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i barhau â’r arholiadau hyn yn ystod wythnos olaf y cyfnod asesu presennol ac ar y cam hwy hwn ni allwn newid natur yr asesiadau hyn.
Hoffem gadarnhau polisi gohirio’r Brifysgol ar gyfer unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu arholiadau neu gymryd rhan ar-lein:
Gohirio Asesu
Rydym wedi adolygu’r polisi hwn ac ymgynghori arno mewn ymateb i adborth gan fyfyrwyr, gydag Undeb y Myfyrwyr a chydweithwyr yn y Cyfadrannau. Ar ôl llawer o drafod, ac i gydnabod canlyniadau sydd er budd gorau ein myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi penderfynu parhau â’i threfniadau presennol ar gyfer gohirio fel a nodwyd uchod.
Teimlwyd os byddem yn symud yr holl ohiriadau ar gyfer pob lefel astudio i gyfnod asesu mis Mai, fel y gofynnwyd amdano, byddai’r baich asesu ychwanegol a’r heriau y byddai hyn yn eu cyflwyno i fyfyrwyr o ran paratoi a’u bodloni, ddim er lles ein myfyrwyr.
Os ydych yn gofidio am effaith y gohiriadau ar eich astudiaethau, fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch Ysgol i ddechrau. Mae Polisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol gan gynnwys gohiriadau, ar gael yma i fod o gymorth ac i’ch cynghori.
Student Communications and Content Development Officer Gwener Ionawr 14th, 2022
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University