Bydd Prifysgol Abertawe’n cynnal digwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost ddydd Iau 27 Ionawr 2022, ar-lein drwy Zoom o 11am tan 11.45am. Thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw ‘Un Diwrnod’. ‘Os nad oeddech chi’n meddwl am ddoe, ac efallai na ddaw yfory, dim ond heddiw roedd angen ymdopi ag ef ac roeddech chi’n byw drwyddo gorau y gallech chi’ Iby Knill, a oroesodd yr Holocost.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs ysbrydoledig gan yr Athro Rebecca Clifford o’r enw: Impossible Reconstructions: Families After the Holocaust. Yn ogystal ag archwilio pam roedd aduno teuluoedd mor anodd yn y cyfnod yn union ar ôl y rhyfel, bydd y sgwrs hon hefyd yn archwilio profiad goddrychol plant o’r digwyddiadau hyn. Bydd yn berthnasol nid yn unig i’r rhai sydd â diddordeb yn ôl-effeithiau’r Holocost, ond i bawb sydd â diddordeb mewn teuluoedd sydd wedi’u gwahanu heddiw.
Bydd y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Martin Stringer, yn rhoi gair o groeso i agor y digwyddiad.
I gofrestru am y digwyddiad, cliciwch yma Digwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost
Diwrnod Cofio’r Holocost cefndir byr:
Diwrnod Cofio’r Holocost yw Diwrnod Coffa Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig i goffáu dioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac erledigaethau’r Natsïaid, yn ogystal ag achosion eraill o hil-laddiad ledled y byd, gan gynnwys rhai yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Rhwng 1941 a 1945, ceisiodd y Natsïaid ddinistrio holl Iddewon Ewrop, drwy ymgais llofruddiaeth systematig a chynlluniedig, yn yr hyn sy’n cael ei adnabod bellach fel yr Holocost. Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi marw mewn gwersyll-garcharau, getoau a saethu torfol. Yn ogystal, lladdwyd pum miliwn o bobl eraill mewn llofruddiaethau torfol gan y Natsïaid, gan gynnwys pobl LGBT, pobl anabl a rhai â salwch meddwl, Slafiaid, pobl Romani a phobl o gefndir ethnig gwahanol a chredoau crefyddol gyda chyfanswm y marwolaethau’n cyrraedd tuag 11 miliwn.
Student Communications Officer Llun Ionawr 17th, 2022
Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University