Mae amserlenni bellach wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer bloc addysgu dau a gallwn gadarnhau y bydd yr addysgu’n dechrau yn unol â’r cynlluniau. Yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd y tymor diwethaf, bydd mwy o addysgu wyneb yn wyneb a mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â myfyrwyr eraill mewn amgylcheddau academaidd.
Disgwylir i bob myfyriwr ddychwelyd i’r campws ym mis Ionawr i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgu ac ymchwil wyneb yn wyneb, ond cafwyd eithriad bach, lle mae eu rhaglenni’n caniatáu hynny, ar gyfer ein myfyrwyr rhyngwladol nad oes modd iddynt deithio i Abertawe. Cynghorir myfyrwyr rhyngwladol nad oes modd iddynt deithio i Abertawe i gyrraedd cyn gynted ag y bo’n bosib ac erbyn 6 Ebrill fan bellaf.
Mae Llywodraeth Cymru’n credu bod addysg yn flaenoriaeth ac yn disgwyl i leoliadau addysg weithredu addysg wyneb yn wyneb, a darparu mynediad ati, gan roi asesiadau risg a mesurau lliniaru priodol ar waith. Felly, rydym wedi cynyddu addysgu wyneb yn wyneb, gan sicrhau bod canllawiau iechyd a diogelwch ar waith i ddiogelu ein myfyrwyr a’n staff.
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
myunisupport@abertawe.ac.uki siarad ag aelod tîm a fydd yn gallu eich cefnogi ynghylch unrhyw bryderon.
Dylai myfyrwyr sy’n agored i niwed yn glinigol e-bostioBlaenoriaethwyd ardaloedd a bydd lleoliadau ar gael.
Mae ein llyfrgelloedd ar agor ar hyn o bryd gyda mesurau iechyd a diogelwch ar waith ac maent yn cael eu hasesu’n barhaus fel y gallwn gynnig y gwasanaeth gorau posib i fyfyrwyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Ar wahân i adeiladau’r llyfrgell, mae sawl lle ar gampysau’r Bae a Pharc Singleton y gallwch chi eu defnyddio at ddibenion astudio anffurfiol.
Yn unol â rheoliadau’r Brifysgol, rhaid i chi roi gwybod i MyUniSupport@abertawe.ac.ukos byddwch yn cael prawf positif am Covid-19. Os oes gennych unrhyw bryderon, gallwch hefyd gysylltu â thîm MyUniSupport i gael rhagor o wybodaeth.
Student Communications Coordinator Iau Ionawr 20th, 2022
Posted In: Newyddion Campws, Negeseuon, Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
That’s poggers