Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i roi pob cyfle i chi lwyddo yn eich astudiaethau a thu hwnt. Felly, mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig nifer o gyrsiau a gweithdai rhad ac am ddim sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i ddysgu sgiliau newydd a chyflawni eich potensial academaidd – beth bynnag yw eich lefel astudio.
Mae cyrsiau a gweithdai yn ymdrin ag amryw o sgiliau a phynciau, gan gynnwys:
Cyfle i wella eich ysgrifennu creadigol, datblygu sgiliau meddwl yn greadigol, dysgu sut i wneud cyflwyniad gwych a llawer mwy.
Cewch gyfle i ymgyfarwyddo â rheoli amser, meistroli eich cof, rhyddhau eich creadigrwydd a mireinio eich sgiliau TG gyda’n gweithdai unigol.
O ramadeg sylfaenol Saesneg i sgiliau ysgrifennu creadigol a sgiliau seminar, mae gennym nifer o gyrsiau sydd ar gael i’ch helpu i ymdrin â’r anawsterau sy’n gysylltiedig ag astudio yn y DU pan nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer apwyntiadau un-i-un gydag aelod o staff a all gynnig cyngor ar eich gwaith academaidd. Cliciwch yma i drefnu apwyntiad.
Student Communications Officer Llun Ionawr 24th, 2022
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University