Fe fydd dathliadau Nawddsant Cymru – Dewi Sant – yn cael eu cynnal eleni ar gampws ac ar lein ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn ac eleni rydym ni’n ymestyn y dathliadau nes ddydd Gwener y 4ydd o Fawrth – Diwrnod ♥ Cymru Day – dathliad o gerddoriaeth, bwyd a diwylliant Cymru.
Beth Sydd Ymlaen?
Ar Fawrth y 1af fe fydd Tŷ Fulton a’r Neuadd Fawr yn cael eu goleuo’n goch, gwyn a gwyrdd – lliwiau baner Cymru – i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
Ar Fawrth y 3ydd a’r 4ydd mae cyfle i gael sesiynau blasu dysgu Cymraeg ar lein ac ar gampws Singleton – rhannwch y newyddion gyda’ch cyfoedion!
Diwrnod ♥ Cymru day – Dydd Gwener y 4ydd o Fawrth
Ymunwch â ni ar Gampws Singleton rhwng 12-2yp, Dydd Gwener y 4ydd o Fawrth, o flaen Tŷ Fulton lle mae modd:
Cymerwch ran!
Galwch heibio am lwy garu rhad ac am ddim ac mae gostyngiad o 10% ar rai eitemau Cymraeg yn siop Fulton Outfitters – holwch yn y siop pa eitemau – a rhowch i elusen drwy brynu bathodyn Cenhinen Bedr Marie Curie a fydd ar gael yn ystod y dydd.
Ymunwch yn yr hwyl drwy dynnu llun gyda phrop neu ffrâm Cymreig, tagiwch eich ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannwch gariad Diwrnod ♥ Cymru Day
Student Partnership and Engagement Manager Gwener Chwefror 25th, 2022
Posted In:
Newyddion Campws, Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon