Y Cyfrif Plastig Mawr yw’r archwiliad mwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig i wastraff plastig aelwydydd, wedi’i greu gan ein ffrindiau yn Greenpeace ac Everyday Plastic er mwyn deall faint o blastig rydym ni’n ei ddefnyddio yn y DU a’r hyn sy’n digwydd iddo mewn gwirionedd.
Bydd y Cyfrif Plastig Mawr yn datgelu’r gwirionedd am faint o blastig mae aelwydydd yn ei daflu, a faint sy’n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. Bydd y genedl yn dod ynghyd er mwyn cyfrif ein gwastraff plastig am wythnos ym mis Mai, a bydd y dystiolaeth newydd yn hollbwysig i argyhoeddi’r llywodraeth, y cwmnïau mawr a’r archfarchnadoedd i weithredu’n uchelgeisiol ynghylch deunydd pacio plastig o’r diwedd.
Sut gallaf gymryd rhan?
Mae’n hawdd teimlo bod yr argyfwng plastig yn dy lethu… Mae’r Cyfrif Plastig Mawr yn gyfle gwych i WNEUD rhywbeth go iawn amdano!
Rydym ni’n edrych ymlaen at ddechrau cyfrif a bod yn rhan o’r newid y mae ei angen arnom – ymuna â ni! Cofrestra nawr – ac anoga dy ffrindiau, dy deulu a dy gymuned i gymryd rhan hefyd!
Cofrestra i gymryd rhan yn Y Cyfrif Plastig Mawr – a helpa i roi pwysau ar y llywodraeth a’r cwmnïau mawr i wneud mwy i leihau plastig untro!
Student Communications Coordinator Llun Mai 16th, 2022
Posted In: Negeseuon, Arolygon ac Astudiaetha, Sustainability
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University