Mae Gwobr Dylan Thomas flynyddol Prifysgol Abertawe, a lansiwyd yn 2006, yn un o’r gwobrau mwyaf mawreddog i awduron ifanc, gyda’r nod o annog talent greadigol amrwd ledled y byd. Mae’n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Mae’n un o wobrau llenyddol mwyaf mawreddog y DU yn ogystal ag un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i awduron ifanc. Wedi’i dyfarnu am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau, mae’r Wobr yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama.

Mae’r wobr wedi’i henwi ar ôl yr awdur a aned yn Abertawe, Dylan Thomas, ac mae’n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Yn un o lenorion mwyaf dylanwadol, rhyngwladol-enwog canol yr ugeinfed ganrif, mae’r wobr yn dwyn ei gof i gefnogi awduron heddiw ac i feithrin doniau yfory.

Rydym yn falch o gynnig nifer cyfyngedig o docynnau ar gyfer seremoni wobrwyo Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.

Pryd: Dydd Iau, 12fed Mai 2022 – 6:30pm

Lle: Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe, Campws Y Bae

Gwisg: Smart

Rhoddir tocynnau ar sail y cyntaf i’r felin.

E-bostiwch: idtprizefinal@abertawe.ac.uk

Llun Mai 9th, 2022

Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?, Negeseuon, Amrywiol

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University