Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn cynnig cymorth ychwanegol i myfyrwyr sydd wedi’u ddieithrio cymwys i’w helpu i bontio i’r brifysgol i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau ac i raddio’n llwyddiannus. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth, cyngor, ac arweiniad ar bob agwedd ar fywyd yn y brifysgol er mwyn i fyfyrwyr allu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe a’r tu hwnt.
Caiff myfyrwyr eu hystyried i fod wedi’u dieithrio o’u teuluoedd os yw perthnasoedd â’u rhieni wedi dirywio mewn ffordd na ellir eu cymodi ac nid oes modd rhagweld sut y gallai hyn wella.
Mae’r cymorth yn cynnwys:
Os wyt ti wedi dy ddieithrio oddi wrth dy deulu a hoffet ti dderbyn rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod i’r Brifysgol am eich statws, sut i fod yn gymwys i dderbyn cymorth ac i ddysgu pa gymorth sydd ar gael, cliciwch yma.
Os oes gennyt ti gwestiynau, e-bostia Cyfranogiad@BywydCampws.
I gynnig cymorth i chi, ni fydd yn rhaid i ni wybod pam eich bod chi wedi’ch dieithrio o’ch rhieni, felly ni fyddwn ni byth yn gofyn.
Student Communications Officer Mawrth Medi 20th, 2022
Posted In: Llesiant
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University