Ar 9 Chwefror, bydd y cymhwysiad Microsoft Authenticator yn newid.
Bydd Microsoft yn cyflwyno nodwedd newydd o’r enw ‘Number Matching’. Yn lle gweld yr opsiynau ‘Approve’ neu ‘Deny’ ar eich dyfais symudol, bydd gofyn i chi deipio’r rhif a fydd yn ymddangos ar eich sgrîn er mwyn cymeradwyo’r cais. Bydd modd i chi wrthod y cais os bydd yn ymddangos, os nad ydych chi wedi ceisio mewngofnodi. Mae’r sgrinlun isod yn dangos yr hyn y byddwch yn ei weld ar eich sgrîn ac ar eich dyfais symudol.
Yn ogystal, bydd y swyddogaeth ‘Show App’ yn dangos i chi enw’r cymhwysiad sy’n gofyn am eich awdurdodiad. Bydd hyn yn eich helpu i wirio eich bod yn caniatáu mynediad at y cymhwysiad hwnnw yn unig. Mae rhai gwasanaethau heb eu henwi, felly byddant yn sbarduno’r proc ‘Approve’ neu ‘Deny’ o hyd. Un enghraifft o hyn yw ein gwasanaeth RDP na fydd yn gofyn i chi deipio rhif.
Yn y fersiwn o Microsoft Authenticator a gaiff ei rhyddhau ym mis Ionawr 2023 ar gyfer iOS, ni fydd ap cydymaith ar gyfer watchOS gan nad yw’n cyd-fynd â nodweddion diogelwch Authenticator. Ni fydd modd i chi osod neu ddefnyddio Microsoft Authenticator ar Apple Watch. Rydym ni argymell felly eich bod yn dileu Microsoft Authenticator o’ch Apple Watch, a mewngofnodi â Microsoft Authenticator ar ddyfais arall.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Gwasanaethau TG neu ewch i dudalen we Gwasanaethau TG.
Student Communications Officer Mawrth Chwefror 7th, 2023
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University