Dewch i drio gwisgoedd yn arddull yr Hen Aifft a chreu eich gemwaith eich hun yn ystod gwyliau’r Pasg, yn ein gweithdai Crefftau a Gwisgoedd i blant!

Dewch i ddarganfod y gwahanol fathau o wisgoedd oedd ganddynt yn yr Hen Aifft, a sut cawsant eu creu, wrth i chi wisgo fel dawnswyr teml, ffermwyr a hyd yn oed y Ffaro. Cewch gyfle i gyffwrdd â gwrthrychau go iawn a grëwyd gan yr Eifftwyr hynafol a dysgu’r sgiliau roedd eu hangen i greu’r swynoglau hudol a oedd yn cael eu defnyddio yn ystod y broses mymïo. Yna gallwch greu eich coler a’ch coron Eifftaidd eich hun i’w cadw!

Yn addas ar gyfer oedran 6-11 oed
Dydd Mercher 12 Dydd Gwener 14 Chwefror
10yb – 3yp

£20 y plentyn y dydd

Cadwch le heddiw!

Plentyn mewn gwisg Eifftaidd

Mercher Mawrth 15th, 2023

Posted In: Digwyddiadau: Beth sydd Ymlaen?

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Upcoming Events


© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University