Bydd llawer ohonoch chi’n sefyll arholiadau ac asesiadau dros yr ychydig wythnosau nesaf a hoffem achub ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i chi a’ch helpu trwy’ch atgoffa am ychydig bethau ar gyfer y cyfnod asesu.
Ddim yn siŵr ble mae’ch arholiad yn cael ei gynnal? Yn cyflwyno mapiau o’r campws, yr ychwanegiad diweddaraf i’ch ap FyAbertawe. Mae’r mapiau newydd o’r campws yn cynnig cynllun manwl o holl gampysau’r Brifysgol. Gan gynnwys lleoliadau adeiladau, mannau o ddiddordeb, lleoliadau arholiadau, cyfeiriadau a hidlwr categorïau i fireinio’r hyn rydych yn chwilio amdano! Boed yn fannau cymdeithasol, yn fannau astudio neu’n lleoliadau i gael gwybodaeth a chymorth.
Am wybodaeth am deithio i’ch arholiadau, gan gynnwys bysus arholiadau, cliciwch yma.
Ein blaenoriaeth gyntaf oll yw sicrhau eich bod yn cyrraedd eich arholiadau ar amser. oherwydd disgwylir lefelau uwch o alw a chyfnodau prysur, mae bysiau ychwanegol wedi cael eu trefnu.
Gall llywio’ch ffordd drwy’r cyfnod asesu achosi straen felly mae gennym amrywiaeth o adnoddau ym Mhrifysgol Abertawe i’ch cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.
Ar gyfer cymorth lles a llesiant gweler ein tudalennau gwe penodol.
Fel myfyriwr, mae gennych chi fynediad am ddim, 24/7 ac uniongyrchol at Togetherall. Dyma le diogel i chi drafod eich pryderon, bwrw’ch bol a chysylltu ag eraill a allai fod yn teimlo’n union yr un peth â chi.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Ganolfan Cyngor a Chymorth annibynnol hefyd, sydd ar gael i fyfyrwyr â phryderon yn ystod cyfnodau asesu. Gallwch drefnu i gael cyngor drwy e-bostio advice@swansea-union.co.uk.
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr a allai arwain at anallu i baratoi am asesiadau neu ymgymryd â nhw. Os ydych yn cyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno fydd pum niwrnod gwaith i ddyddiad cau’r asesiad/arholiad NEU’r dyddiad cau a gyhoeddir gan eich Cyfadran/Ysgol yn unol â Pholisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am ymholiadau, gweler tudalennau’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud ac na ddylech ei wneud yn ystod eich arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin.
Student Communications Officer Llun Mai 15th, 2023
Posted In: Negeseuon
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University