Newidiadau i Wasanaethau Bws First Cymru
O ddydd Sul 11 Mehefin, bydd yr amserlenni bws ar gyfer y cyfnod y tu allan i’r tymor yn dechrau. Bydd hyn, fel arfer, yn golygu llai o wasanaethau gan First Cymru yn ystod y cyfnod tawelach hwn.
Bydd newidiadau i’r gwasanaethau presennol a chaiff gwasanaethau ychwanegol eu cyflwyno yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn cynghori pob myfyriwr i ddysgu rhagor am yr amserlenni newydd cyn i’r newidiadau hyn fod ar waith.
Y prif wasanaeth ar gyfer y Brifysgol yn ystod gwyliau’r haf fydd y gwasanaeth Rhif 90, a fydd yn mynd o Stryd Christina (canol y ddinas), i’r Strand, i Gampws y Bae .
Gwasanaethau Bws o Gampws Parc Singleton
I’r rhai sy’n teithio o Gampws Parc Singleton, rydyn ni’n argymell y gwasanaethau canlynol y gallwch eu dal y tu allan i Dŷ Fulton i Orsaf Fysus y Cwadrant (canol y ddinas): 4, 23, 3A, 2A.
I’r rhai sy’n teithio i Gampws y Bae wedi hynny, gallwch ddal bysus sy’n cysylltu, o safleoedd D-F yng Ngorsaf Fysus y Cwadrant: 90, X1, X5, X7 and 38.
Gwasanaethau Bws o Gampws y Bae
Yn ogystal â gwasanaeth 90 fel y nodir uchod (ar Gampws y Bae), gallwch ddal y bysus canlynol y tu allan i Gampws y Bae ar y brif ffordd: X1, X5, X7, a 38 i Orsaf Fysus y Cwadrant.
I’r rhai sy’n teithio i Gampws Singleton wedi hynny, gallwch ddal bysus sy’n cysylltu (4, 23, 3A a 2A) o safleoedd X, V R ac U yn y Cwadrant, i Gampws Singleton.
Costau Teithio
Yn ystod gwyliau’r haf, bydd y tocyn diwrnod i fyfyrwyr am £3.50 ar gael ar yr holl wasanaethau hyn (yn ogystal â thocynnau blynyddol a thocynnau amser tymor i staff a myfyrwyr).
O ddydd Llun 18 Medi, byddwch chi’n gweld gwasanaethau newydd sbon a gwell (gan gynnwys gwasanaeth 24 awr), a fydd yn gwasanaethu ein campysau. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth drwy e-bost ac ar ein tudalennau gwe ynghylch teithio, cyn bo hir.
Yn y cyfamser, lawrlwythwch ap First Bus am wybodaeth gan First Cymru, gan gynnwys cynllunio teithiau, neu dilynwch @firstcymru ar Twitter.
Hefyd, gallwch edrych ar ein gwefan ynghylch teithio am wybodaeth am fysus a theithio llesol.
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Student Communications and Content Development Officer Mawrth Mai 30th, 2023
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University
Hello, Please how do I get My travel pass?
Hello Aderonke, all the information you require for the ‘My Travel Pass’ can be found here. . Hope this helps! Thank you.