Mae Gwobr James Bartley mewn Darllen Saesneg yn cael ei dyfarnu gan Senedd y Brifysgol i’r myfyriwr sy’n cyrraedd y safon uchaf mewn darllen Saesneg mewn cystadleuaeth sy’n agored i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Cynhelir y gystadleuaeth ar y dyddiad uchod. Bydd gofyn i gystadleuwyr ddarllen darn a ddewisir gan y panel o feirniaid.
Ceir gwobr gwerth £60, i’w gwario ar brynu llyfrau. Bydd disgwyl i’r myfyriwr buddugol ddarllen yr awdurdodiad Saesneg a cherdd yn y Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo. Sylwer na ddyfernir y wobr oni fydd haeddiant digonol.
Os ydych yn dymuno cystadlu, rhowch wybod i Elaine Secker drwy e-bost:e.secker@abertawe.ac.uk cyn gynted â phosibl, a hynny cyn hanner dydd ddydd Gwener 22 Ebril 2016
Student Communications Coordinator Llun Mawrth 21st, 2016
Posted In: Amrywiol
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University