Rydym yn cynnal ymchwil i’r rhesymau sylfaenol dros ganfyddiadau o flas. Nod yr astudiaeth yw ymchwilio effaith hwyliau ar brosesau sylfaenol yr ymennydd, megis cof, gwneud penderfyniadau a phrofi gwybodaeth o’r synhwyrau, megis blas, wrth wylio’r teledu. Byddwch yn cyflawni tasgau gwneud penderfyniadau, holiadur hwyliau, prawf cyflymder y galon wrth orffwys a phrawf blas wrth wylio’r teledu. Dilynir hyn gan holiaduron ar hoff fwydydd, personoliaeth a gwybodaeth iechyd gefndirol gyffredinol, gan gynnwys taldra a phwysau.
Cyfranogwyr: Os hoffech gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, mae’n bwysig eich bod yn bwyta’ch brecwast/cinio arferol oddeutu dwy i dair awr cyn yr astudiaeth, nad oes gennych unrhyw alergeddau bwyd ac y gallwch ddefnyddio Saesneg yn dda. Yn ogystal, mae’n bwysig nad ydych yn feichiog, yn llysieuwr/fegan nac yn cymryd unrhyw feddyginiaeth sy’n effeithio ar archwaeth.
Amser: 60 munud
Lle: Nawfed Llawr Tŵr Vivian, Prifysgol Abertawe
£8 am gymryd rhan
Os hoffech gymryd rhan, neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch
Ruby Marzella: 636177@abertawe.ac.uk; Dr Menna Price: m.j.price@abertawe.ac.uk
Am wybodaeth am gymryd rhan mewn ymchwil seicoleg arall drwy ein system gyfranogwyr gyfrifiadurol, mewngofnodwch i https://psychology-swansea.sona-systems.com.
Student Communications Coordinator Mawrth Mehefin 21st, 2016
Posted In: Arolygon ac Astudiaetha
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University