Ni yw’r enillwyr!
Nos Wener am 10pm, cyrhaeddodd Prifysgol Abertawe frig tabl yr arweinwyr yn Her Beiciau Santander y Prifysgolion!
I ennill yr her hon, rydym wedi trechu cystadleuaeth ffyrnig gan 22 prifysgol arall yn y DU yn sgil codi swm anhygoel o £100,000 drwy ein hymgyrch cyllido torfol. Roedd gennym gyfanswm o 612 o gefnogwyr, sef bron 50% yn fwy na’n cystadleuydd agosaf, Prifysgol Brunel Llundain.
Mae ennill yr her wedi bod yn ymdrech gydweithredol enfawr. Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl staff a’r myfyrwyr sydd wedi ein cefnogi a chyfrannu at yr ymgyrch wych hon.
Erbyn y gwanwyn, bydd modd codi a gollwng 50 o feiciau mewn 100 o orsafoedd docio mewn pum lleoliad ledled y ddinas! Byddwn yn rhannu newyddion am ein cynlluniau â chi’n rheolaidd.
Byddwn yn cysylltu cyn bo hir â phawb a wnaeth addewidion, i roi gwybod i chi sut gallwch dderbyn eich gwobrau a manteisio i’r eithaf ar y beiciau! Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, e-bostiwch bikeshare@abertawe.ac.uk.
Diolch yn fawr iawn unwaith eto i bob un ohonoch chi!
Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau | Cyfrifoldeb Corfforaethol
Tîm Cyllido Torfol #beiciauiabertawe
Student Communications Officer Llun Rhagfyr 18th, 2017
© Swansea University
Hosted by Information Services and Systems, Swansea University